Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Isadeiledd Gwyrdd

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn trawsnewid cymunedau drwy gyfrwng isadeiledd gwyrdd. Rydyn ni’n peri fod llefydd yn well drwy blannu coed ac adfer gwlyptiroedd. 

Beth sy’n digwydd nawr

Prosiect cysylltu isadeiledd gwyrdd

Gan weithio gyda phartneriaid lleol, rydyn ni’n:

  • Plannu coed i wella ansawdd yr awyr a chysgodi ardaloedd trefol
  • Adfer gwlyptiroedd er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd a chefnogi bywyd gwyllt
  • Creu mannau sy’n croesawu peillwyr i hybu bioamrywiaeth 

Strategaeth Ddatgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy (DARE)

Mae ein strategaeth DARE yn defnyddio isadeiledd gwyrdd i daclo newid hinsawdd drwy:

  • atafaelu carbon
  • lleihau llygredd
  • gwytnwch hinsawdd  

Manteision isadeiledd gwyrdd

Bioamrywiaeth 

Mae mwy o gynefinoedd yn golygu mwy o fywyd gwyllt 

Gwarchod rhag llifogydd

Mae gwlyptiroedd a choed yn helpu i reoli dŵr yn naturiol 

Llesiant cymunedol

Mae cael mynediad i natur yn gwella iechyd meddwl a chorfforol 

Rhannu eich Adborth