Mae Eisteddfod yr Urdd yn dod i Gastell-nedd Port Talbot!
Bydd Eisteddfod yr Urdd, gŵyl ieuenctid teithiol fwyaf Ewrop, yn cael ei chynnal ym Mharc Gwledig Margam eleni.
Mae’r digwyddiad mawreddog hwn yn dathlu:
- yr iaith Gymraeg
- diwylliant Cymru
- talent anhygoel pobl ifanc ledled Cymru
Gweithgareddau a digwyddiadau
Croesewir tua 15,000 o blant a phobl ifanc i gystadlu mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau.
Bydd hefyd:
- arddangosfeydd a gweithgareddau cyffrous yn y GwyddonLe a’r babell Celf a Chrefft
- llwyfannau perfformio gyda dawnswyr, bandiau byw a grwpiau yn diddanu ymwelwyr drwy'r dydd, bob dydd
Mae Maes yr Eisteddfod yn rhoi blas o’r hyn sydd gan yr Urdd i’w gynnig, gyda llu o weithgareddau celfyddydol a chwaraeon.
Peidiwch â cholli Gŵyl Triban i’r rhai sy’n mwynhau cerddoriaeth fyw Cymraeg – mae digon i ddiddanu pawb!
Parc Gwledig Margam
Mae Parc Gwledig Margam yn atyniad lleol poblogaidd sy’n adnabyddus am ei:
- gerddi hardd
- castell hanesyddol
- parcdir eang
Yn ystod yr ŵyl bydd yn cael ei thrawsnewid yn ardal fywiog i blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru a thu hwnt.


Dysgwch fwy
Ewch i wefan Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 am:
- y newyddion diweddaraf
- cyhoeddiadau
- tocynnau
Gwnewch y mwyaf o'ch ymweliad
Mae Castell-nedd Port Talbot yn ardal fywiog gyda hanes cyfoethog ac yn gartref i dirweddau naturiol syfrdanol. Mae ein hardaloedd arfordirol yn aros i gael eu harchwilio. Mae glan môr Aberafan yn berffaith ar gyfer mynd am dro hamddenol gyda’r teulu, neu rywle i eistedd gyda’r nos a gwylio’r machlud dros Fae Abertawe.
P’un a ydych yn chwiliwr antur, yn fforiwr diwylliannol neu’n frwd dros yr awyr agored, mae gennym brofiad yn aros amdanoch yng Nghastell-nedd Port Talbot – Calon Ddramatig Cymru! Tra byddwch chi yma ar gyfer yr Eisteddfod, manteisiwch ar y cyfle i grwydro ein hardal hardd a’n hatyniadau.
Lle o amrywiaeth eithafol, lle mae dwyrain trefol yn cwrdd â gorllewin gwledig Cymru
Yn cynnig harddwch, hanes, bywyd gwyllt ac amrywiaeth eang o atyniadau i deuluoedd
Dewch o hyd i le i aros yn ystod eich ymweliad