Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Port Talbot - Cais Tref Diwylliant y DU 2028

Llunio'r cais

Mae cais Port Talbot ar gyfer Tref Diwylliant y DU 2028 yn gyfle cyffrous i arddangos popeth sy’n gwneud ein tref yn arbennig; ein pobl, lleoedd, creadigrwydd, treftadaeth ac ysbryd cymunedol!

Bydd y cais yn adlewyrchu uchelgeisiau, syniadau a straeon pobl sy'n byw, yn gweithio ac yn gofalu am Port Talbot a Chwm Afan.

Os oes gennych chi syniad, prosiect neu stori i'w rhannu byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Port Talbot – Tref Ddiwylliant

Dilynwch y newyddion, y digwyddiadau a'r cyfleoedd diweddaraf i gymryd rhan.

Cymerwch ran

Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn cychwyn ar raglen helaeth o ymgysylltu â'r gymuned i helpu i lunio'r cais. Yn y cyfamser, rydym yn annog pawb i rannu eu syniadau, eu hawgrymiadau a’u cynigion o gefnogaeth trwy gyfeiriad e-bost swyddogol y Dref Diwylliant.

Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau bod pob cyfraniad yn cael ei gasglu a'i ystyried wrth i'r cais ddatblygu a bod yr holl wybodaeth yn cael ei chasglu mewn un lle. I gymryd rhan drwy’r sianel swyddogol, cysylltwch â thîm y Dref Diwylliant yn uniongyrchol drwy’r mewnflwch newydd: 
PortTalbotTOC@npt.gov.uk 

Pam mae'n bwysig

Bydd cais Tref Diwylliant llwyddiannus yn rhoi cyfle i ddathlu popeth sy'n gwneud Port Talbot yn arbennig, tynnu sylw at dalent a chreadigrwydd lleol, a helpu i greu etifeddiaeth ddiwylliannol barhaus ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Edrychwn ymlaen at gydweithio i arddangos y gorau oll o Port Talbot a Chwm Afan.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon wrth i'r cais fynd rhagddo.

Mae cystadleuaeth Tref Diwylliant y DU yn rhan o uchelgais Llywodraeth y DU i gyflawni gwaddol hirhoedlog o gyfranogiad diwylliannol ac adfer balchder mewn ardaloedd lleol ym mhob rhan o Brydain.

Nol i ben y dudalen