Swît yr Hen Ystafell Lys
Y lleoliad
Yr Hen Ystafell Lys yw ein hystafell seremonïau newydd, wedi’i dylunio i fod yn lleoliad perffaith ar gyfer eich diwrnod arbennig.
Mae'r ystafell wedi'i haddurno mewn arlliwiau gwyrdd meddal ac aur, gyda blodau ifori ac wedi'i hategu â chadeiriau Chiavari.
Cynhelir seremonïau o ddydd Sul i ddydd Sadwrn, gan gynnwys gwyliau banc.
Mae lle i hyd at 65 o westeion yn yr ystafell, gan gynnwys y cwpl.

Seremonïau

Cynhelir seremonïau o ddydd Sul tan ddydd Sadwrn, gan gynnwys ar wyliau banc.
Mae Swît yr Hen Ystafell Lys ar gael ar gyfer:
- seremonïau priodas sifil
- partneriaethau sifil
- seremonïau ymrwymo
- adnewyddu addunedau
- seremonïau enwi
- gwasanaethau angladd
Llogi'r ystafell
Mae gan y swît y gallu i groesawu hyd at 65 o bobl, gan gynnwys y cwpl:
Dydd Llun i Ddydd Gwener | Dydd Sadwrn |
Dydd Sul a Gwyliau Banc |
---|---|---|
£250 | £285 | £350 |
Ffioedd
Wrth archebu bydd angen i chi dalu ffi na ellir ei ad-dalu:
- ffi archebu £50
- ffi rhybudd £42 y pen
- ffi tystysgrif £12.50 yr un
Archebu
I gadw lle ar gyfer eich diwrnod arbennig neu i drefnu i weld y swît cysylltwch â ni ar 01639 760021 neu e-bostiwch registrars@npt.gov.uk.
Ar gyfer priodasau neu bartneriaethau sifil, mae angen ichi roi rhybudd cyfreithiol. Byddwn yn eich helpu gyda hyn.