Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rhowch hysbysiad

Unwaith y byddwch wedi cynllunio eich seremoni, rhaid i chi drefnu apwyntiad i roi hysbysiad i ni o'ch bwriad i ffurfio partneriaeth sifil.

Pryd i roi hysbysiad

Mae rhoi eich hysbysiad yn ofyniad cyfreithiol y mae'n rhaid ei gwblhau cyn eich seremoni partneriaeth sifil.

Mae hysbysiadau yn benodol i leoliad eich seremoni. Ni allwch drefnu apwyntiad fwy na 12 mis cynt,  ond rhaid i chi ei drefnu o leiaf 29 diwrnod cyn hynny.

Mae hwn yn apwyntiad y bydd angen i'r ddau ohonoch ei fynychu.

Lle i roi hysbysiad

Gwnewch apwyntiad yn Swyddfa Gofrestru Castell-nedd Port Talbot. Rhaid eich bod wedi byw yn yr ardal a gwmpesir gan y swyddfa honno am o leiaf 7 diwrnod.

Os ydych chi a'ch partner yn byw mewn ardaloedd gwahanol, rhaid i'r ddau ohonoch roi hysbysiad ar wahân yn eich ardal eich hun.

Cyfarwyddiadau i SA11 3BN
Y Swyddfa Gofrestru
Forster Road Castell-nedd Castell-nedd Port Talbot SA11 3BN pref
(01639) 760021 (01639) 760021 voice +441639760021