Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Swyddi Gofal Cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot

Dod yn weithiwr cymorth cymunedol

Rydyn ni’n chwilio am bobl garedig a gofalgar i ymuno â’n Tîm Llesiant Cymunedol. Ni sy’n gyfrifol am ddarparu gofal personol i bobl yn eu cartrefi’u hunain er mwyn eu helpu i aros mor annibynnol â phosib.

Fe all hyn gynnwys cynorthwyo â gofal personol, paratoi prydau bwyd a helpu gyda meddyginiaeth.

Mae gennym nifer o swyddi cyflenwi ar gael hefyd i bobl sydd eisiau gweithio yn ôl y galw.

Pam ymuno â’n tîm yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot?

Os ydych chi’n chwilio am swydd ble gallech chi wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd rhywun yn feunyddiol, efallai mai dod yn weithiwr cymorth cymunedol yw’r swydd i chi.

Y peth pwysicaf am weithio mewn gofal cymdeithasol yw bod gennych ysfa i helpu eraill.

Mae profiad blaenorol yn ddymunol ond byddwn yn darparu hyfforddiant llawn.

Rhai o’r rhesymau mwyaf cyffredin y bydd pobl yn dewis gweithio i ni yw:

  • patrymau amrywiol o waith ar gael
  • hyfforddiant llawn wedi'i ddarparu sydd hefyd yn arwain at Gofrestru Gofal Cymdeithasol Cymru
  • oriau gwaith wedi’u gwarantu, ynghyd â chyfleoedd i weithio oriau goramser
  • cyfradd Cyflog Byw Cenedlaethol a gwelliannau cyflog
  • hawliau gwyliau blynyddol hael
  • mynediad i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • darperir gwisg swyddogol ac offer diogelu personol (PPE)
  • cyfleoedd i ddatblygu gyrfa
  • amser teithio â thâl rhwng galwadau a lwfans milltiroedd

Cefnogaeth swydd

Os oes angen unrhyw help neu gyngor arnoch wrth lenwi'r ffurflen gais, cysylltwch â'n tîm cyfeillgar ar 07794878920 neu 01639 765301 neu 01639 685303.

Neu anfonwch e-bost at Jo, Cydlynydd Hyfforddi a Recriwtio ar j.f.owen@npt.gov.uk, Gemma, Rheolwr Tîm, ar g.pascoe@npt.gov.uk neu Eirlys, Dirprwy Reolwr y Tîm, ar m.e.ryan@npt.gov.uk Os ydych chi’n meddwl yr hoffech gael help gyda gwneud cais am swydd, mae ein tîm cefnogi cyflogaeth, Cyflogadwyedd CPT yma i helpu.

Gall y tîm helpu gyda llenwi ffurflenni cais, dulliau cynnal cyfweliad, codi hyder a chwilio am swydd. Cysylltu â Cyflogadwyedd CPT.

Swyddi gofal eraill

Gofalwn Cymru yw’r porth penodol yng Nghymru ar gyfer pob swydd wag gyda darparwyr gofal cymdeithasol allanol, gan gynnwys swyddi mewn gofal cymdeithasol i oedolion, blynyddoedd cynnar a gofal plant. Mae sawl rôl wahanol ar gael mewn gofal cymdeithasol a allai fod o ddiddordeb i chi, o gefnogi rhywun yn eu cartref i weithio mewn cartref gofal preswyl.

I ddysgu mwy am y math o swyddi yw’r rhain, mae gan wefan Gofalwn Cymru lawer o astudiaethau achos a fideos o bobl yn disgrifio drostynt eu hunain sut beth yw hi i wneud y swydd.

Rhannu eich Adborth