Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Problem gydag eiddo ar rent

Cysylltwch â'ch landlord neu asiant yn gyntaf

Mae'n rhaid i chi roi gwybod am broblem i'ch landlord neu asiant cyn cysylltu â ni.

Os byddwch yn rhoi gwybod am broblem dros y ffôn neu’n bersonol, dylech ategu hyn yn ysgrifenedig drwy:

  • llythyr
  • e-bost
  • neges destun

Rhowch wybod i ni am broblem dim ond os ydych chi'n anhapus gydag ymateb y landlord neu'r asiant ar ôl 14 diwrnod.

Ysgrifennu cwyn

Gofynnwch i'r landlord neu'r asiant archwilio'r materion o fewn 14 diwrnod. Os oes angen, efallai y bydd atgyweiriadau yn cael eu trefnu ar gyfer dyddiad diweddarach.

Rhaid i chi gynnwys:

  • y dyddiad
  • eich enw a'ch cyfeiriad 
  • enw eich landlord neu asiant 
  • manylion am y problemau gyda’ch tŷ

Ceisiwch gynnwys cymaint o wybodaeth â phosibl am y broblem a chadwch gopi o'r llythyr, yr e-bost neu'r neges destun yr ydych yn ei anfon.

Gallwch wneud hyn drwy:

  • sgrinlun
  • argraffu
  •  llungopi
  • ffotograff

Beth sy'n digwydd nesaf

Os ydych chi'n anfodlon gyda ymateb y landlord neu'r asiant ar ôl 14 diwrnod, defnyddiwch y ffurflen rhoi gwybod ar-lein isod i gysylltu â ni.

Gallwn ni:

  • rhoi gwybod i’r landlord neu’r asiant ein bod wedi derbyn cwyn am ddiffyg atgyweirio
  • rhoi 14 diwrnod iddynt ymateb i'r materion
  • cynnal archwiliad o’ch eiddo os yw’ch landlord yn methu ag ymateb o fewn yr amser hwnnw
  • cymryd camau gorfodi os oes angen i sicrhau bod atgyweiriadau'n cael eu gwneud
Gall amseroedd aros ar gyfer arolygiadau fod yn hirach yn ystod cyfnodau prysur neu ar gyfer materion nad ydynt yn rhai brys.

Eiddo Cymdeithasau Tai

Os ydych yn rhentu gan gymdeithas tai yng Nghymru, maent yn gyfrifol am:

  • atgyweiriadau yn eich eiddo
  • darparu gwybodaeth gyswllt ar gyfer rhoi gwybod am broblemau

Dilynwch eu trefn gwyno swyddogol i roi gwybod am unrhyw broblemau atgyweirio.

Ar ôl hynny, gallwch gysylltu ag Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ymchwilio i'ch cwyn os ydych yn dal yn anhapus.

Problem gyda'r eiddo rydych yn ei rentu

Gallwch roi gwybod am broblem gyda'ch eiddo rydych yn ei rentu ar-lein.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen:

  • eich enw 
  • eich cyfeiriad 
  • eich manylion cyswllt 
  • manylion am y broblem