Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Clymog Japan

Beth yw Clymog Japan

Mae Clymog Japan yn blanhigyn ymledol sy'n anodd iawn ei reoli.

Mae'n effeithio ar fioamrywiaeth trwy ffurfio cytrefi trwchus a all wasgu rhywogaethau planhigion eraill.

Fe'i darganfyddir yn aml ar ochr:

  • ffyrdd
  • rheilffyrdd
  • cyrsiau dŵr

Mae gwybodaeth am sut i adnabod, atal lledaeniad a gwaredu Clymog Japan ar gael ar wefan y Llywodraeth.

Prisiau a thriniaethau

Rydym yn cynnig y gwasanaethau triniaeth ganlynol i dirfeddianwyr helpu i reoli lledaeniad Clymog Japan:

Safleoedd domestig: Cynllun triniaeth chwistrellu 5 mlynedd
Cyfanswm cost 5 mlynedd - £1,448.07 (gan gynnwys TAW)
Blwyddyn Gwasanaeth Pris (yn cynnwys TAW)
1 Cynllun rheoli a thriniaeth gyntaf £437.78
2 Ymweliad / ail-drin £303.09
3 Ymweliad / ail-drin £303.09
4 Ymweliad monitro ac adroddiad cynnydd £202.05
5 Ymweliad monitro ac adroddiad cadarnhau £202.05
Safleoedd bychan (hyd at 4m2): Cynllun triniaeth chwistrellu
Cyfanswm cost 5 mlynedd - £909.25 (gan gynnwys TAW)
Blwyddyn Gwasanaeth Pris (yn cynnwys TAW)
1 Cynllun rheoli a thriniaeth gyntaf £303.09
2 Ymweliad / ail-drin £168.39
3 Ymweliad / ail-drin £168.39
4 Ymweliad monitro ac adroddiad cynnydd £134.68
5 Ymweliad monitro ac adroddiad cadarnhau £134.68
Safleoedd mwy: Triniaethau pwrpasol

Bydd angen cynllun rheoli pwrpasol ar safleoedd mwy.

Bydd y dyfynbris yn cyfateb i daliadau'r safle domestig, ynghyd â £118.86 yr awr (gan gynnwys TAW).

Mae hyn yn cynnwys yr amser ychwanegol a dreulir ar ddelio ag ardaloedd dros 50m2.

Mae angen caniatâd perchnogion y tir a rhaid talu ymlaen llaw.

Gwasanaethau nad ydym yn eu cynnig

Cyn gwneud cais, gweler y rhestr ganlynol o wasanaethau nad ydym yn eu cynnig:

NID YDYM YN:
  • ymchwilio i anghydfodau â pherchnogion tir cyfagos ynghylch lledaeniad Clymog Japan
  • cynorthwyo i ddarganfod pwy sy'n berchen ar dir y mae Clymog Japan yn achosi pryder
  • cymryd camau cyfreithiol mewn perthynas â Chlymog Japan
  • cynnig Gwarantau a Gefnogir gan Yswiriant

Gofyn am wasanaeth

Gallwch gwblhau ein ffurflen ar-lein i ofyn am:

  • arolwg
  • dyfynbris
  • triniaeth

Rhannu eich Adborth