Triniaeth Rheoli plâu
Rydym yn cynnig gwasanaeth trin plâu â thâl ar gyfer cartrefi a busnesau yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Gallwch hefyd:
- rhoi gwybod am broblem rheoli plâu sydd ddim ar eich tir
 - gofyn am gyngor dros y ffôn gan Swyddog Rheoli Plâu (bydd angen i chi roi eich rhif ffôn i ni)
 
Mae ein holl staff wedi eu cymhwyso i safonau Cymdeithas Rheoli Plâu Prydain.
Plâu rydym yn eu trin (gwasanaeth â thâl)
- morgrug (y tu mewn i'r adeilad)
 - chwilod gwely
 - chwilod duon
 - chwain
 - llygod
 - llygod mawr
 - gwenyn meirch
 
Gwahaniaethau rhwng gwenyn meirch a gwenyn
Cyn cysylltu â ni ynglŷn â gwenyn meirch a gwenyn, defnyddiwch y wybodaeth isod i ddarganfod y gwahaniaeth.
Gwenyn meirch
- du a melyn llachar
 - ychydig neu ddim gwallt
 - fel arfer 1-2 cm o hyd
 - dydyn nhw ddim yn heidio
 
Mwy o wybodaeth am wenyn meirch
Gwenyn
- fel arfer yn llai na gwenyn meirch
 - blewog â gwallt byr
 - heidio yn ystod y gwanwyn a'r haf
 
Mwy o wybodaeth am wenyn
Prisiau triniaeth
Triniaethau cartref
| Pla | Triniaeth | Cyfanswm gan gynnwys TAW | 
|---|---|---|
| morgrug (tu fewn) | 1 driniaeth | £77.04 | 
| Chwilod duon a llau gwely | 1 driniaeth | £156.09 | 
| Chwain | 1 driniaeth | £77.04 | 
| Llygod mawr a llygod | Mae 2 ail ymweliad wedi'u cynnwys o fewn y ffi | £45.15 | 
| Gwenyn meirch | 1 driniaeth | £77.04 | 
Triniaethau busnes
Cysylltwch â rheoli plâu i gael y cytundebau sydd ar gael
| Pla | Triniaeth | Cyfanswm ynghyd â TAW | 
|---|---|---|
| Llygod mawr, llygod a phryfed | 1 driniaeth | £97.19 | 
Ad-daliad mewnol ar gyfer triniaethau rheoli plâu
| Rheoli pla (Mewnol) | Treatment | Cyfanswm yn cynnwys TAW | 
|---|---|---|
| Llygod mawr, llygod a pryfed | 
 Un ymweliad triniaeth Contractwyr pwrpasol ar gael ar gais  | 
£25.00 | 
Amseroedd archebu
| Dydd | Bore | Prynhawn | 
|---|---|---|
| Dydd Llun | 08.30 - 12.00 | 12.00 - 17.00 | 
| Dydd Mawrth | 08.30 - 12.00 | 12.00 - 17.00 | 
| Dydd Mercher | 08.30 - 12.00 | 12.00 - 17.00 | 
| Dydd Iau | 08.30 - 12.00 | 12.00 - 17.00 | 
| Dydd Gwener | 08.30 - 12.00 | 12.00 - 16.30 | 
Trefnwch driniaeth rheoli pla
Mae angen talu ymlaen llaw ar gyfer ymweliadau a gellir eu harchebu ar-lein:
- Cynhelir ymweliadau yn ystod oriau swyddfa
 - Ar gyfer argyfyngau y tu allan i oriau gwaith, bydd angen i chi gysylltu â chwmni rheoli pla
 - 
Os oes angen cyngor dros y ffôn arnoch, gallwch ofyn am alwad gan Swyddog Rheoli Plâu (bydd angen i chi roi eich rhif ffôn i ni)
 
Yn dilyn archeb
- Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich taliad a'ch apwyntiad
 - Bydd Swyddog Rheoli Plâu yn cysylltu â chi y diwrnod cyn eich ymweliad i gadarnhau'r amser cyrraedd amcangyfrifedig
 - Os bydd angen i chi newid eich apwyntiad, bydd manylion ar sut i wneud hyn yn cael eu cynnwys yn eich e-bost cadarnhau
 
Canslo ac ad-dalu
- Rhaid i chi ganslo cyn ymweliad y Swyddog Rheoli Plâu i gael ad-daliad llawn
 - Ni fyddwch yn derbyn ad-daliad os bydd Swyddog Rheoli Plâu yn cyrraedd ar gyfer apwyntiad a archebwyd ymlaen llaw