Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Her ddarllen i oedolion

Trosolwg

Ymunwch â Her 12 Llyfr a derbyn gwobrau ar y ffordd! Benthycwch lyfrau o'r llyfrgell a chwblhewch y heriau i dderbyn eich gwobrau.

Mae'r her ar agor i aelodau llyfrgell Castell-nedd Port Talbot yn unig.

Sut mae'n gweithio

  1. Ymwelwch ag un o’n llyfrgelloedd a chofrestrwch i dderbyn eich cerdyn her. Mae’r her yn dechrau ar unwaith wrth i chi gofrestru.
  2. Benthycwch a darllenwch lyfr sy'n cyd-fynd ag un o'r heriau ar y cerdyn her.Gallwch ddarllen y llyfrau mewn unrhyw drefn.
  3. Ewch yn ôl i'r llyfrgell gyda'ch cardiau aelodaeth a her i gasglu stamp.
  4. Derbynwch wobrau pan fyddwch wedi darllen 6 a 12 llyfr.
Nid yw'r hyrwyddiad hwn ar gael gyda'n gwasanaeth llyfrau electronig, Borrowbox.
Sialens 12 Llyfr

Rhaid benthyca pob llyfr o lyfrgell a redir gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Dim ond yn y llyfrgelloedd hyn y mae'r cymhelliant hwn ar gael:

Gwobrau

Mae'r her yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 2026. Ni fydd unrhyw wobrau yn cael eu rhoi ar ôl y dyddiad hwn.

Mae pob gwobr yn dibynnu ar argaeledd ac rhaid ei ddefnyddio o fewn 12 mis o'r dyddiad cyhoeddi'r tocyn.

6 llyfr

Taleb am ddiod boeth o Barc Gwledig y Gnoll neu Barc Gwledig Margam.

12 llyfr

Taleb am docyn sinema ar gyfer Canolfan Gelfyddydau Pontardawe.

Rhannu eich Adborth