Ymunwch â llyfrgell
Diweddariad system llyfrgelloedd
Rydym yn gwella ein systemau llyfrgell a fydd yn achosi peth aflonyddwch tra bydd y broses hon yn cael ei chyflawni. O'r 6-13 Rhagfyr na fydd rhai gwasanaethau ar gael.
Gallwch wneud cais am gerdyn llyfrgell os ydych:
- yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot
- gweithio yng Nghastell-nedd Port Talbot neu ymweld â Chastell-nedd Port Talbot, ond ddim yn byw yma
Dod yn aelod
Mae ymuno ar-lein yn eich galluogi i:
- benthyca llyfrau, cerddoriaeth, DVDs a theitlau llafar o'n llyfrgelloedd i gyd
- adnewyddu, cadw a chasglu o unrhyw lyfrgell yng Nghastell-nedd Port Talbot
- lawrlwytho eLyfrau, e-gylchgronau, eLyfrau llafar ac eBapurau Newydd am ddim
- Defnyddio cyfrifiaduron llyfrgell a Wi-Fi
- Diweddaru eich cyfrif llyfrgell
Gallwch fenthyg llyfrau ac e-lyfrau, a defnyddio'r cyfrifiaduron am ddim. Rydym yn codi tâl am wasanaethau eraill fel benthyca CDs a DVDs.
I gasglu neu amnewid eich cerdyn, bydd angen i chi ymweld ag un o'n llyfrgelloedd gyda phrawf cyfeiriad.
Os ydych o dan 16 oed, bydd angen i'ch rhiant neu ofalwr ddangos un math o brawf adnabod a llofnodi'r cais.