Llyfrgell Teganau
Mae'r llyfrgell deganau yn rhoi benthyg teganau am ddim i blant ar gyfer chwarae a datblygiad ysgogol.
Mae’r gwasanaeth ar gael i:
- darparwyr gofal plant cofrestredig ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
 - grwpiau chwarae (Cymraeg a Saesneg)
 - grwpiau rhieni a phlant bach
 - clybiau ar ôl ysgol
 - Gofalwyr Plant a Gofalwyr Maeth
 - asiantaethau partner ac ysgolion drwy ELRS
 
Sut ydw i'n ymuno?
Rhaid llenwi ffurflen aelodaeth a'i dychwelyd i'r llyfrgell deganau cyn y gellir benthyg teganau.
Yna gall aelodau ymweld â'r llyfrgell deganau i ddewis a benthyg teganau.
I drefnu apwyntiad, cysylltwch â:
Beth alla i ei fenthyg?
| Pwy all fenthyca? | Maint | 
|---|---|
| Grwpiau chwarae | 4 | 
| Grwpiau rhieni a phlant bach | 4 | 
| Clybiau ar ôl ysgol | 4 | 
| Gwarchodwyr plant | 2 | 
| Gofalwyr Maeth | 2 | 
Lle mae'r llyfrgell deganau?
Cyfarwyddiadau i SA11 2BQ
                
                
                    
                            Pencadlys y Llyfrgell
                    
                
                    
        
                                Heol Castell-nedd
                                Llansawel
                                Castell-nedd Port Talbot
                                SA11 2BQ
                        pref
                    
                        
                        
                                
            Oriau agor
| Dydd | Bore | Prynhawn | 
|---|---|---|
| Dydd Llun | Ar gau | Ar gau | 
| Dydd Mawrth | 09.00 - 12.00 | 1.00 - 4.00 | 
| Dydd Mercher | 09.00 - 12.00 | 1.00 - 4.00 | 
| Dydd Iau | Ar gau | Ar gau | 
| Dydd Gwener | Ar gau | Ar gau | 
| Dydd Sadwrn | Ar gau | Ar gau | 
| Dydd Sul | Ar gau | Ar gau |