Dydd Sadwrn y Busnesau Bach
Trosolwg
Mae'r ymgyrch flynyddol yn dathlu busnesau bach ledled y DU.
Bydd busnesau ar draws Castell-nedd, Port Talbot a Phontardawe yn cymryd rhan.
Drwy ddewis siopa'n lleol, rydych chi'n helpu i:
- gefnogi swyddi
- hwb i'r economi leol
- cadw canolfannau ein trefi'n ffynnu
Gall ymwelwyr archwilio siopau, caffis a gwasanaethau lleol drwy gydol y dydd.
Bydd digwyddiadau Nadoligaidd hefyd yn cael eu cynnal yng nghanolfannau trefi ledled Castell-nedd Port Talbot.
Gweithgareddau Nadoligaidd
Llwybr Hwyl y Nadolig
Gall teuluoedd gymryd rhan yn y Llwybr Hwyl yr Nadolig.
Dilynwch y cliwiau a dewch o hyd i gymeriadau Nadoligaidd sydd wedi’u cuddio o amgylch busnesau sy’n cymryd rhan.
Mae’r llwybr yn cynnig ffordd hwyliog o archwilio’r stryd fawr a darganfod busnesau ar hyd y ffordd.
Cyfarfod Siôn Corn yn Castell-nedd
Gall plant gwrdd â Siôn Corn yn ystod digwyddiadau Cyfarfod a Chyfarch Siôn Corn ar ddyddiau Sadwrn yng nghanol tref Castell-nedd.
Cynnig parcio
Mwynhewch barcio drwy'r dydd am £2 ar Ddiwrnod Busnesau Bach.
Ar gael ym mhob maes parcio canol tref sy'n eiddo i'r cyngor yn:
- Castell-nedd
- Port Talbot
- Pontardawe
P'un a ydych yn siopa am anrhegion, yn ymweld â chaffis lleol neu'n cymryd rhan yn y gweithgareddau Nadoligaidd, mae'r gostyngiad ar barcio yn ei gwneud yn haws cefnogi busnesau lleol a threulio amser yng nghanol ein trefi.