Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Arwyddion dros dro a baneri

Mae'r Cyngor yn gadael i chi osod arwyddion ar y ffordd ar gyfer digwyddiadau cymunedol, gwasanaethau cyhoeddus neu elusennol.

Cyn i chi osod arwyddion neu faneri, mae angen i chi anfon dwy ffurflen i'r Adran Ymgysylltu:

  • ffurflen gais
  • ffurflen atebolrwydd

Bydd archebion yn cael eu cadarnhau unwaith y bydd y ffurflenni wedi eu prosesu.

Gosodwch arwyddion neu faneri ar yr amser y cytunwyd arno, dim cynharach na phythefnos cyn y digwyddiad. Tynnwch nhw i lawr o fewn 24 awr ar ôl y digwyddiad.

Ar ôl i'ch archeb gael ei chadarnhau, rhowch faneri i fyny ddydd Llun a thynnwch nhw i lawr erbyn dydd Sul.

Rhaid i bob arwydd fod yn Gymraeg ac yn Saesneg i ddilyn rheolau'r cyngor.

Gellir gosod arwyddion / baneri dros dro ar y safleoedd canlynol:

Castell-nedd

  • Rheilen warchod Morrisons (gerbron yr orsaf betrol)
  • Rheilen warchod Gerddi Victoria (tu allan i'r feddygfa)
  • Rheilen warchod cylchfan Canolfan Ddinesig Castell-nedd
  • Rheilen warchod cylchfan cornel Stockhams

Port Talbot

  • Rheilen warchod Theatr y Dywysoges Frenhinol / Canolfan Ddinesig Port Talbot
  • Rheilen warchod Morrisons (gyferbyn â'r brif fynedfa)

Glyn-nedd

  • Rheilen warchod (gyferbyn â 110 Stryd Fawr)

Pontardawe

  • Rheilen warchod yr A474 (wrth y safle bws)

Unrhyw ymholiadau mewn perthynas â cheisiadau am arwyddion dros dro o ddigwyddiadau wedi'u cynllunio, cysylltwch â'r Adran Peirianneg ar 01639 686906.

Lawrlwythiadau

  • Application for temporary signs and banners (DOCX 32 KB)
  • Liability form for temporary signs and banners (DOCX 33 KB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau