Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cam Tri: Apêl i'r Tribiwnlys Cosbau Traffig

Os yw eich cynrychiolaethau ffurfiol yn cael eu gwrthod, fe gewch Hysbysiad o Wrthod. Yna gallwch apelio i'r Tribiwnlys Cosbau Traffig.

Terfyn amser

Rhaid i chi gyflwyno apêl o fewn 28 diwrnod ar ôl yr Hysbysiad o Wrthod.

Sut i apelio

Apêliwch ar-lein gan ddefnyddio'r cod PIN ar eich Hysbysiad o Wrthod. Os na allwch fynd ar-lein, gallwch gysylltu â'r Tribiwnlys Cosbau Traffig i ofyn am ffurflen Hysbysiad o Apêl.

Rhaid i chi ddewis y sail gyfreithiol a chynnwys eich tystiolaeth. Bydd y barnwr yn ystyried y dystiolaeth o'r ddwy ochr.

Beth sy'n digwydd nesaf

Bydd y Tribiwnlys yn adolygu eich apêl ac yn anfon cadarnhad atoch.

Rhannu eich Adborth