Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Nant Cryddan, Melyn

Peryglon presennol o lifogydd

  • Llifogydd i eiddo preswyl a masnachol ym Melyn, Castell-nedd o Nant Cryddan.
  • Mae’r strwythur derbyn yn St Catherine’s Close yn aml yn gorlifo. Mae hyn yn arwain at lifogydd i'r ffordd A474 rhwng Castell-nedd a Llansawel. 
  • Mae'r brif reilffordd y tu ôl i Bingo Castell-nedd  mewn perygl cyson o gael ei gorlifo. Mae angen gwella'r cwlfert o dan y rheilffordd, i ymdrin â llifogydd hyd at a chan gynnwys y Tebygolrwydd Gormodedd Blynyddol o 1% (AEP).

Gwaith arfaethedig

Mae'r Tîm Priffyrdd a Draenio wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i symud y cynllun hwn ymlaen.

Bydd y cynllun yn cael ei ddatblygu i'r cam Dyluniad Manwl ac Achos Busnes Llawn.

Mae’r gwaith bellach wedi dechrau gyda’r ymgynghorydd a benodwyd. Mae'r prosiect wedi'i gynllunio i redeg o haf 2025 i wanwyn 2027.

Y cam presennol

Cwblhau cam yr Achos Busnes Amlinellol.

Mae cyflwyniad i Lywodraeth Cymru hefyd wedi'i gymeradwyo.

Manteision

  • Lleihau'r risg o lifogydd dŵr wyneb ar gyfer 430 o eiddo ym Melyn, Castell-nedd.
  • Darparu gwell gwydnwch rhag llifogydd ar gyfer y busnesau sydd wedi'u lleoli yn ystâd ddiwydiannol Heol Milland. Bydd hyn hyd at ac yn cynnwys y Tebygolrwydd Gormodedd Blynyddol o 1% (AEP).
  • Cyfyngu ar ddifrod ac aflonyddwch i'r A474 Ffordd Llansawel, sy'n briffordd hanfodol.
  • Gwarchodaeth strwythurol i Linell Network Rail.

Amhariadau tebygol

  • Cynnydd mewn traffig adeiladu ar hyd yr A474 Ffordd Llansawel a'r ardaloedd cyfagos.
  • Cau ffyrdd dros dro ar hyd yr A474 Ffordd Llansawel a'r ardaloedd cyfagos.

Cyllid

Mae gwerth buddsoddi presennol y cynllun hwn tua £14.6m.

Cysylltwch

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y cynllun, cysylltwch â:

Rheolwr Prosiect Draenio
Richard Colman

Rhannu eich Adborth