Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Cerbydau wedi'u gadael

Nid yw Swyddogion Gorfodi Gwastraff yn delio ag anghydfodau parcio na cherbydau sydd heb eu trethu Nid yw Swyddogion Gorfodi Gwastraff yn delio ag anghydfodau parcio na cherbydau sydd heb eu trethu

Arwyddion y gallai cerbyd fod wedi'i adael

Gall cerbyd fod wedi'i adael os yw'n:

  • wedi bod yn yr un man am fwy na 14 diwrnod
  • â theiars fflat, olwynion ar goll neu ffenestri wedi torri
  • wedi'i ddifrodi'n wael
  • wedi llosgi'n llwyr neu'n rhannol
  • heb blatiau cofrestru

Os byddwn yn credu bod cerbyd wedi'i adael, efallai y byddwn yn:

  • gwirio cofnodion y DVLA i gael manylion y ceidwad cofrestredig
  • gosod hysbysiad ar y cerbyd

Cerbydau ar dir preifat

Gallwn ymchwilio i gerbydau sydd wedi'u gadael ar dir preifat.

Cyn symud cerbyd, fel arfer byddwn yn ymgynghori â pherchennog y tir neu'r asiant rheoli, ac yn gosod hysbysiad ar y cerbyd am 15 diwrnod.

Cerbydau na allwn eu hymchwilio

Cerbydau heb dreth

Os nad oes treth ar gerbyd, gallwch roi gwybod amdano i'r DVLA.

Cerbydau wedi'u dwyn neu gerbydau sy'n achosi rhwystr

Os ydych yn credu bod cerbyd wedi'i ddwyn neu'n achosi rhwystr ar y briffordd, cysylltwch â Heddlu De Cymru ar 101.

Cyn rhoi gwybod am gerbyd

Efallai y byddwn yn gofyn i chi gadarnhau ers faint o amser mae'r cerbyd wedi bod yn llonydd yn yr un lle.

Ni fyddwn yn ymchwilio i gerbydau sydd wedi bod yn llonydd am lai na 2 wythnos.

Rhowch wybod i ni:

  • gwneuthuriad a model y cerbyd
  • y rhif cofrestru, neu gadarnhewch os nad oes platiau cofrestru arno
  • lliw'r cerbyd
  • cyflwr y cerbyd, gan gynnwys unrhyw ddifrod neu fandaliaeth
  • union leoliad y cerbyd, er enghraifft y cyfeiriad agosaf
  • ers faint o amser y mae wedi bod yno
  • unrhyw wybodaeth sydd gennych am y perchennog neu'r defnyddiwr
  • eich manylion cyswllt

Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt yn gyfrinachol a gellir eu defnyddio i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein hymchwiliad.

Gall adroddiadau dienw neu adroddiadau sy'n cynnwys gwybodaeth ffug effeithio ar ein gallu i gynnal ymchwiliad.

Rhoi gwybod ar-lein

Os yw'r cerbyd wedi bod yn yr un lle am fwy na 14 diwrnod ac mae'n ymddangos ei fod wedi'i adael, gallwch roi gwybod amdano ar-lein.

Nol i ben y dudalen