Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Goleuadau traffig

Trosolwg

Gallwch roi gwybod am broblem â goleuadau traffig neu groesfannau i gerddwyr ar-lein.

Rhowch wybod i ni os oes:

  • nam ar y botwm aros
  • un neu fwy o’r goleuadau ddim yn gweithio
  • goleuadau’r groesfan wedi’u difrodi neu ddim yn gweithio
  • problemau amseru neu’r goleuadau allan o drefn sy’n achosi ciwiau neu oedi

Olrhain eich adroddiadau

Gallwch olrhain eich adroddiadau gyda ein cyfrif preswyl newydd ar-lein, fyCNPT.

Ffyrdd cefnffyrdd a phrif lwybrau

Mae rhai goleuadau traffig ar ffyrdd cefnffyrdd yn cael eu rheoli gan Asiantaeth Ffyrdd Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA).

Mae prif leoliadau sy’n cael eu rheoli gan SWTRA yn cynnwys:

  • A48 Sunnycroft, Baglan (Cyffordd 41)
  • Cylchfan A48, Llansawel (McDonald’s)
  • Cylchfan M4 / A465, Llandarsi (Cyffordd 43)
  • M4, Earlswood (Cyffordd 42)

Rhoi gwybod am broblem

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnom:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad
  • eich manylion cyswllt
  • y lleoliad
  • manylion am y broblem

Rhannu eich Adborth