Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cefn gwlad a hawliau tramwy cyhoeddus

Mae hawl tramwy cyhoeddus yn llwybr y mae gan y cyhoedd hawl gyfreithiol i’w ddefnyddio. Mae'r rhwydwaith hawliau tramwy yn cynnwys:

  • llwybrau cerdded
  • llwybrau ceffylau
  • cilffyrdd

Mae ein Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt yn cynnal hawliau tramwy cyhoeddus yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Gorchmynion llwybrau cyhoeddus

Mae gorchymyn llwybr cyhoeddus yn ofynnol yn gyfreithiol wrth wneud newid parhaol i'r rhwydwaith hawliau tramwy.

Gallwch weld yr hysbysiadau cyfreithiol presennol a gorchmynion llwybrau cyhoeddus.

Map hawliau tramwy cyhoeddus

Gallwch ddod o hyd i hawliau tramwy cyhoeddus gan ddefnyddio ein map ar-lein.

Canllaw yn unig yw'r map. Nid yw'n dangos priffyrdd mabwysiedig.

Nid oes unrhyw gilffyrdd cyfyngedig wedi'u cofnodi yn y Fwrdeistref Sirol.

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT)

Rhaid i'r awdurdod priffyrdd gynhyrchu CGHT i gydnabod gwerth hawliau tramwy cyhoeddus.

Mae'r cynllun yn amlinellu'r ffyrdd y gallwn wella hawliau tramwy lleol a mynediad i gefn gwlad yn CNPT.

Cymeradwywyd cynllun drafft ar 20 Mawrth, 2020 yn dilyn asesiad ac ymgynghoriad.

Lawrlwythiadau

  • Rights of Way Improvement Plan (PDF 3.28 MB)

Gallwch weld ymatebion i sylwadau a newidiadau yn atodiad 1 ynglŷn â'r cynllun drafft.

Map a Datganiad Diffiniol

Mae'r Map Diffiniol yn gofnod cyfreithiol o'r holl hawliau tramwy cyhoeddus cofrestredig yn CNPT.

 Mae'n dangos:

  • llwybrau cyhoeddus
  • llwybrau ceffylau
  • cilffyrdd sy'n agored i bob traffig

Mae Datganiad Diffiniol yn disgrifio llwybr pob hawl tramwy yn fanylach.

Gallwch wneud apwyntiad i weld y Map a’r Datganiad Diffiniol yn:

Cyfarwyddiadau i SA11 2GG
Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Y Ceiau Ffordd Brunel Llansawel Castell-nedd Port Talbot SA11 2GG pref

Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl)

Nod y FfMLl yw gwella mynediad i gefn gwlad ac mae'n cynnig cyngor i ni ar sut i gyflawni hyn.

Mae cyfarfodydd FfMLl yn agored i'r cyhoedd. Cysylltwch â'r Tîm Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt am ragor o wybodaeth.