Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Trafnidiaeth gymunedol

Mae trafnidiaeth gymunedol yn helpu pobl na allant ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Gall hyn fod oherwydd:

  • problemau oedran, iechyd neu symudedd
  • anabledd
  • diffyg gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus

Mae amrywiaeth o gynlluniau trafnidiaeth gymunedol yn rhedeg yn Castell-nedd Port Talbot. Maent i gyd yn cynnig lefel wahanol o wasanaeth.

Taith Co-op

Mae Taith Co-op yn cynnig cymorth teithio i bobl sy'n agored i niwed.

Maent yn cefnogi'r henoed, gofalwyr a phobl ag anawsterau neu anableddau dysgu.Maen nhw'n mynd â phobl i:

  • apwyntiadau ysbyty
  • lleoliadau gwaith
  • gweithgareddau cymdeithasol
  • coleg

Rhowch wybod 48 awr ymlaen llaw gan fod teithiau yn amodol ar argaeledd gyrrwr a cherbyd.

Mae teithwyr yn talu'r gyrrwr ar ddiwrnod y daith gyda thâl lleiaf o £5.00 am unrhyw daith.

I wneud archeb, cysylltwch â ni rhwng 9am - 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener:

Taith Co-op
07915 026 758 07915 026 758 voice +447915026758

Canolfan Maerdy

Mae Cynllun Cludiant Cymunedol Dyffryn Aman Uchaf yn cynnig cymorth teithio ar gyfer:

  • siopa 
  • apwyntiadau hanfodol
  • ymweld â theulu a ffrindiau

Rhowch wybod 48 awr ymlaen llaw gan fod teithiau yn amodol ar argaeledd gwirfoddolwyr.

Mae teithwyr yn talu'r gyrrwr ar ddiwrnod y daith gyda thâl lleiaf o £3.00 am unrhyw daith.

I wneud archeb, cysylltwch â ni rhwng 9am - 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener:

Canolfan Maerdy
07938 719 638 07938 719 638 voice +447938719638

Ceir Cymunedol Ystalyfera

Mae Cynllun Ceir Cymunedol Ystalyfera yn cynnig cymorth teithio ar gyfer teithiau meddygol.

Mae gwirfoddolwyr yn rhedeg y cynllun ar gyfer trigolion lleol oedrannus yn unig.

I wneud archeb, dod yn wirfoddolwr neu aelod, cysylltwch â:

Ceir Cymunedol Ystalyfera
(01639) 843 965 (01639) 843 965 voice +441639843965

DANSA

Mae Trafnidiaeth Gymunedol DANSA yn cynnig llawer o opsiynau teithio i unigolion neu grwpiau.

Bydd angen i chi gofrestru cyn archebu unrhyw un o'u gwasanaethau. Maent yn cynnig:

  • dial-a-ride - ar gyfer yr henoed a'r anabl
  • teithio grŵp - ar gyfer elusennau a sefydliadau
  • mynd ar eich pen eich hun - gwasanaeth llogi cerbydau ar gyfer elusennau a sefydliadau
  • teithiau cymdeithasol - ar gyfer yr henoed a'r anabl

Gallwch archebu hyd at 6 diwrnod ymlaen llaw, gyda lleiafswm o 48 awr o rybudd.

I gofrestru neu wneud archeb, cysylltwch â DANSA:

Trafnidiaeth Gymunedol DANSA
(01639) 751 067 (01639) 751 067 voice +441639751067

Shopmobility

Bydd gwasanaeth ceir Shopmobility yn eich codi o'ch cartref ac yn mynd â chi i un o'u siopau.

Byddant hefyd yn mynd â chi adref wedyn.

Bydd angen i chi gofrestru i logi eu hoffer symudedd. Mae aelodaeth am ddim a gallwch logi:

  • amrywiaeth o sgwteri
  • sgwteri teithio cryno ar gyfer gwyliau o fewn y DU
  • cadeiriau olwyn llaw
Nid oes angen Bathodyn Glas arnoch i ddefnyddio'r gwasanaeth.

Am fwy o wybodaeth neu i archebu offer, cysylltwch â nhw yn un o'u siopau:

Cyfarwyddiadau i SA11 3EW
Shopmobility Castell-nedd
Llawr gwaelod Maes Parcio Aml-lawr Rhodfa Tywysog Cymru Castell-nedd Castell-nedd Port Talbot SA11 3EW pref
(01639) 637 372 (01639) 637 372 voice +441639637372
Cyfarwyddiadau i SA13 1PB
Shopmobility Port Talbot
Uned 43 Canolfan Siopa Aberafan Port Talbot Castell-nedd Port Talbot SA13 1PB pref
(01639) 894 949 (01639) 894 949 voice +441639894949