Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cymorth i deuluoedd

Cefnogaeth a chyngor i deuluoedd yn CNPT

Gall bywyd teuluol fod yn heriol ar brydiau, ac mae angen ychydig o help ar bawb o bryd i’w gilydd.

Yn ystod cyfnod anodd mae llawer o deuluoedd yn galw ar:

  • ffrindiau
  • perthnasau
  • cymdogion

Gall y rhain i gyd fod yn ffynhonnell amhrisiadwy o help ond os oes angen cymorth mwy arbenigol arnoch gweler isod.

Cymorth teuluol CNPT

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wybodaeth, cymorth a chyngor am ddim i deuluoedd â phlant 0-25 oed.

Dilynwch ni ar Facebook ac Instagram i gael y newyddion diweddaraf am ddigwyddiadau a gwasanaethau lleol.

Gwasanaethau cymorth cynnar

Mae gennym lawer o wasanaethau sy'n ymroddedig i ddarparu cymorth i rieni, gofalwyr a phobl ifanc.

Mae cymorth a chyngor ar gael os oes angen help arnoch gydag unrhyw un o’r canlynol:

Ymdopi â cholled

Cefnogaeth emosiynol i deuluoedd sy'n profi:

  • profedigaeth
  • gwahaniad
  • sefyllfaoedd heriol eraill

Cam-drin domestig

Cefnogaeth i deuluoedd y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys cymorth ac arweiniad emosiynol.

Iechyd a lles emosiynol

Grwpiau cymorth a gwasanaethau therapi i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Gan gynnwys plant â phresenoldeb isel yn yr ysgol.

Cefnogaeth cartref

Cymorth ymarferol i deuluoedd wneud newidiadau hirdymor i wella bywyd cartref.

Cynnal perthnasoedd iach

Cefnogaeth i:

  • hyrwyddo perthynas deuluol iach
  • mynd i'r afael ag unrhyw heriau y gallech fod yn eu hwynebu

Rhianta

Gwella eich sgiliau magu plant a chefnogi datblygiad plentyn, p'un a ydych yn:

  • rhiant
  • gofalwr
  • rhoddwr gofal

Cefnogaeth i deuluoedd y mae anabledd yn effeithio arnynt

Gallwn eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd i chwarae a chymdeithasu i blant a phobl ifanc gyda:

  • anableddau
  • anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Gallwch hefyd gael cymorth emosiynol ac arweiniad i'ch teulu.

Hawliau lles

Cefnogaeth i sicrhau eich bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.

Sut i gael help

Os ydych chi’n meddwl y byddai’r cymorth rydyn ni’n ei gynnig o fudd i chi neu’ch teulu, gallwch atgyfeirio eich hun drwy:

  • ein ffonio ar 01639 686802
  • anfon e-bost atom  a gofyn am ffurflen hunanatgyfeirio
Gall gweithwyr proffesiynol fel meddygon teulu neu athrawon hefyd wneud atgyfeiriad ar eich rhan.

Rydym yn deall y gall estyn allan am gefnogaeth deimlo'n frawychus. Rydyn ni yma i'ch helpu chi a'ch teulu i ffynnu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Cyfrinachedd

Wrth drafod eich gwybodaeth byddwn yn dilyn ein canllawiau cyfrinachedd llym.