Cwnselydd Ysgol Gwirfoddol
Ynghylch y rôl
Oes gennych angerdd dros weithio gyda phlant a phobl ifanc?
Rydym yn recriwtio Cwnselydd Ysgol Gwirfoddol i ymuno â’n tîm croesawgar a chyfeillgar. Bydd yr ymgeisydd delfrydol wedi’i gymhwyso i lefel diploma o leiaf, a bod ganddo/ganddi brofiad o weithio mewn lleoliad addysgol neu gyda phlant a phobl ifanc; fodd bynnag, nid yw hyn yn hanfodol.
Rydym yn chwilio am gwnselwyr yr hoffent gael y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc sy’n cael anawsterau iechyd meddwl ar draws CnPT.
Bydd y rôl yn cefnogi ein tîm o gwnselwyr sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda disgyblion ysgol uwchradd rhwng 11 ac 18 oed sy’n cyflwyno amrywiaeth o bryderon neu faterion iechyd meddwl. Efallai y bydd cyfleoedd i weithio mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth hefyd.
Bydd disgwyl i chi weithio’n unol â chanllawiau moesegol Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) (neu gyfwerth) ac o fewn prosesau a gweithdrefnau Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion Castell-nedd Port Talbot.
Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus ymrwymo i 1 diwrnod yr wythnos am y flwyddyn academaidd lawn, a disgwylir iddo/iddi i ymgysylltu ag o leiaf 4 o gleientiaid y dydd.
Mae’r swydd hon ar gael tan 31 Gorffennaf 2027 i ddechrau.
Mae Gwasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion Castell-nedd Port Talbot (GCMY CnPT) yn dîm aml-foddol o therapyddion sy'n cynnwys Cwnselwyr mewn Ysgolion, Therapyddion Chwarae a Therapydd Drama. Mae GCMY CNPT wedi ymrwymo i helpu Plant a Phobl Ifanc (PPI) i fynd i'r afael â materion emosiynol ac iechyd meddwl fel y gallant oresgyn adfyd, cyflawni eu potensial a byw bywydau boddhaus. Cyflawnir hyn drwy ddarparu cwnsela a therapi plant i PPI ym mlynyddoedd 1-13 ar draws CNPT. Mae Cwnselwyr a Therapyddion Chwarae yn darparu therapi wedi'i dargedu i PPI er mwyn mynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion emosiynol ac iechyd meddwl. Rydym yn cefnogi ysgolion yn yr ymdrech ar y cyd hon drwy ymgynghori, cefnogi a hyfforddiant mewnol o ansawdd uchel sydd ar gael i benaethiaid, llywodraethwyr ysgol, staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu.
Beth mae aelodau presennol y tîm yn ei ddweud am weithio yn GCMY CnPT
'Mae'n sicr yn wir nad oes unrhyw ddiwrnod yn y swydd hon yr un fath! Rwyf wedi bod yn gweithio fel Cwnselydd mewn Ysgolion ers tair blynedd bellach ac mae'r rôl yn ysgogol ac yn werth chweil. Mae'n fraint gallu gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn therapiwtig a bod yn rhan o dîm sy'n gefnogol ac yn caniatáu lle i unigoliaeth a ffyrdd creadigol o weithio.'
'Mae diwrnod ym mywyd cwnselydd ysgol yn gyfoethog o ran yr amrywiaeth o gleientiaid, yn heriol, yn werth chweil ac yn amrywiol.'
'Rydw i mor falch o'r hyn rydyn ni'n ei wneud fel tîm!'
'Mae diwylliant y gwasanaeth yn galonnog ac yn gefnogol ac rydych chi'n teimlo eich bod yn cael eich clywed. Mae'n agored i unigoliaeth ac mae gan bawb ddigonedd o wybodaeth a sgiliau. Rydym yn dod ynghyd i helpu ein gilydd i gyflawni'r canlyniadau gorau tra'n gwneud ffrindiau da yn y broses.'
Amdanoch chi
Rydym yn croesawu ceisiadau gan y rheini sy’n meddu ar Ddiploma Proffesiynol mewn Cwnsela ac sydd wedi’u cofrestru gyda BACP neu Gyngor Seicotherapi y Deyrnas Unedig (UKCP) neu gorff cyfwerth.
Ar ôl llenwi'r ffurflen gais, sicrhewch eich bod yn mynd i'r afael ag yr elfennau sydd ar y Fanyleb Person.
Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu eich profiad a’ch sgiliau mewn amgylchedd heriol a deinamig, gan weithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n wynebu amrywiaeth o bryderon iechyd meddwl.
Byddwch yn cael goruchwyliaeth fewnol bob pythefnos, ynghyd â chyngor a chymorth rheolaidd gan gwnselydd penodedig yn ogystal â’r tîm ehangach. Bydd gennych hefyd y cyfle i gymryd rhan yn ein digwyddiadau hyfforddiant tîm sy’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.
Os yw hyn yn swnio fel cyfle gwych, hoffem glywed gennych.
I drefnu trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Rhian Miller, Rheolwr y Gwasanaeth Cwnsela Ysgolion (r.miller@npt.gov.uk).
I wneud cais, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at Rhian Miller (r.miller@npt.gov.uk).
Cynhelir cyfweliadau ar 2/7/2026
Mae'r swydd hon yn amodol ar ddatgeliad manwl gan y GDG gan wirio yn erbyn y rhestr wahardd plant
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc/oedolion sy'n agored i niwed ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae gan ein hysgolion/gweithwyr yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc/oedolion diamddiffyn yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles.
Bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr yn sail i'r broses recriwtio ar gyfer y swydd hon i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu diogelu.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol
Gwybodaeth Ychwanegol
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Rydym yn cynnig cynllun cyfweliadau gwarantedig i ymgeiswyr ag anabledd a chyn-filwyr y lluoedd arfog. I gefnogi gweithwyr Tata Steel sydd mewn perygl o golli swydd neu sydd wedi colli eu swydd yn 2024, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig cyfweliad gwarantedig ar gyfer swyddi ar draws y Cyngor. Sylwer bod yn rhaid i ymgeiswyr fodloni'r holl feini prawf hanfodol, fel a ddangosir yn y fanyleb person, i fod yn gymwys am gyfweliad gwarantedig. Os ydych yn cael eich effeithio gan golli swyddi yn Tata Steel, neu os bydd yn effeithio arnoch, byddem yn croesawu cais gennych. Nodwch ar eich ffurflen gais eich bod mewn perygl o golli'ch swydd ar hyn o bryd neu os ydych wedi colli'ch swydd.
Yn Nhîm CNPT, rydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i wasanaethu pobl, cymunedau a busnesau Castell-nedd Port Talbot.
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol i'n holl weithwyr.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Dîm CnPT.
