Prydau ysgol am ddim
Ysgol gynradd
Ond os yw incwm eich cartref yn isel, dylech wneud cais am brydau ysgol am ddim. Gall gwneud cais eich helpu i gael cymorth ychwanegol i'ch plentyn. Gall ysgol eich plentyn hefyd gael cyllid ychwanegol.
Ysgol uwchradd
Mae'n rhaid i chi wneud cais am brydau ysgol am ddim ar gyfer plant mewn ysgol uwchradd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn ehangu prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd ar gyfer yr holl ddisgyblion y mae eu rhiant/gofalwr/gwarchodwr yn derbyn Credyd Cynhwysol, waeth beth fo'u henillion. Gelwir hyn yn brydau ysgol am ddim estynedig.
Bydd hyn ar gyfer holl ddisgyblion blwyddyn 7 ac 8 i ddechrau a bydd yn cwmpasu elfen fwyd prydau ysgol am ddim yn unig. Ni fydd rhieni y mae eu plant yn derbyn prydau ysgol am ddim estynedig yn unig yn gymwys ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgolion.
Croesewir ceisiadau nawr gan rieni, gofalwyr a gwarcheidwaid y mae eu plant ym Mlwyddyn 7 a Blwyddyn 8 ac maent yn gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim Estynedig. Bydd prydau ysgol am ddim estynedig ar gael o 02/11/2026.
Cymhwystra
I gael prydau ysgol am ddim a chymorth ychwanegol arall, mae'n rhaid i chi gael un o'r canlynol:
Credyd Cynhwysol
Os ydych chi neu'ch partner yn cael Credyd Cynhwysol, mae cymhwystra eich plentyn yn dibynnu ar eich enillion net cyfunol.
Enillion net cyfunol o £7,400 y flwyddyn neu lai
Os yw eich enillion net cyfunol yn £7,400 y flwyddyn neu lai (£616.67 y mis), efallai y bydd eich plentyn yn gymwys i gael:
- prydau ysgol am ddim
- cymorth gyda hanfodion ysgol
Enillion net cyfunol o fwy na £7,400 y flwyddyn
- Mae eich plenty ym Mlwyddyn 7 a/neu 8 ac rydych chi'n derbyn Credyd Cynhwysol (nid yw terfyn incwm yn berthnasol)
- Mae hyn yn rhoi mynediad at brydau ysgol am ddim yn unig ac nid y Grant Hanfodion Ysgol
Budd-daliadau cymhwyso eraill
Efallai y bydd eich plentyn hefyd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os ydych yn cael:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) sy'n seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) sy'n gysylltiedig ag incwm
- Credyd Pensiwn
- Credyd Treth Plant, ar yr amod bod incwm blynyddol eich cartref yn £16,190 neu lai cyn treth ac nad ydych yn cael Credyd Treth Gwaith
- cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
Efallai y bydd eich plentyn yn dal i fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os nad oes gan eich teulu hawl i gael arian cyhoeddus (NRPF).
Cymorth ychwanegol
Efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol i'ch plentyn, gan gynnwys:
Gall ysgol eich plentyn hefyd gael cyllid ychwanegol i gefnogi disgyblion sy'n gymwys.
Gwneud cais
Gwneud cais ar-lein
Os yw eich plentyn yn gymwys, gallwch wneud cais am brydau ysgol am ddim.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen:
- eich enw
- eich manylion cyswllt
- enw eich plentyn
- manylion am ysgol eich plentyn
- eich rhif Yswiriant Gwladol (os yw ar gael)
Gwneud cais drwy'r post
Gallwch hefyd lawrlwytho a llenwi'r ffurflen gais isod:
Lawrlwythiadau
Beth sy'n digwydd nesaf
Byddwn yn cysylltu â chi i gadarnhau a yw eich plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac o ba ddyddiad.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais neu os oes angen help arnoch i wneud cais, cysylltwch â:
Gallwch hefyd gysylltu ag ysgol eich plentyn os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch i wneud cais.