Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Hysbysiad preifatrwydd - Bathodynnau Glas

Cefndir

Wrth roi eich gwybodaeth bersonol i ni rydych chi drwy hyn yn cydnabod mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw’r Rheolydd Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol a ddarperir gennych ar y ffurflen hon (at ddiben Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (GDPR) a’r Ddeddf Diogelu Data). 2018 (DPA)).

Bydd y data personol rydym yn ei gasglu gennych trwy'r ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio gan y cyngor (yn unol â'i rwymedigaeth i gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:

  • Ar gyfer gweinyddu ac asesu'r cais am Fathodyn Glas yn unol â deddfwriaeth lywodraethol.
  • At ddibenion gorfodi parcio Bathodyn Glas
  • Ar gyfer atal a chanfod trosedd neu dwyll gan gynnwys paru data o dan y Fenter Twyll Genedlaethol

Rheoli eich gwybodaeth bersonol

Fel rheolwr data, mae'n ofynnol i'r cyngor, o dan y GDPR, eich hysbysu o ba rai o "Amodau Prosesu Data" Erthygl 6 y GDPR y mae'n dibynnu arnynt i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon.  Yn hyn o beth, sylwer mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych chi ar y ffurflen hon ein bod yn dibynnu ar yr amodau canlynol o Erthygl 6):

  • "Mae'r prosesu data yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn ddarostyngedig iddi". (Erthygl 6 (c) GDPR).
  • "Mae'r prosesu data yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolwr." (Erthygl 6 (e) GDPR).

Beth rydym yn ei wneud gyda'r wybodaeth rydym yn ei chasglu

Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol yn ddiogel gyda'r trydydd partïon canlynol (h.y. personau/cyrff/endidau y tu allan i'r Cyngor) yn unol â'r trefniadau rhannu data sydd gennym ar waith gyda'r trydydd partïon hynny

  • Gwasanaethau Cyhoeddus Northgate fel rhan o gontract ar gyfer cynhyrchu'r bathodyn glas
  • Tîm gorfodi parcio’r Cyngor – mae hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth fel mater o drefn am fathodynnau sydd ar goll ac wedi’u dwyn.
  • Timau gorfodi Bathodyn Glas awdurdodau lleol eraill
  • Bydd eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni, gwybodaeth gyswllt a manylion y bathodyn glas yn cael eu rhannu â Swyddfa'r Cabinet ar gyfer paru data o dan y Fenter Twyll Genedlaethol.

Os byddwch yn symud cyfeiriad i awdurdod lleol arall, efallai y bydd eich cofnod Cofrestru Bathodyn Glas yn cael ei drosglwyddo os bydd yr Awdurdod Lleol newydd yn gofyn am hynnu.

Bydd y wybodaeth bersonol a gesglir gennych ar y ffurflen hon yn cael ei chadw gan y Cyngor am gyfnod o:

  • 3 blynedd o ddyddiad dilysrwydd y bathodyn yn achos ceisiadau llwyddiannus NEU 3 blynedd ar gyfer ceisiadau aflwyddiannus

Sylwch fod gofyn i ni gasglu data personol penodol o dan ofynion statudol ac mewn achosion o'r fath gallai methiant gennych i ddarparu'r wybodaeth honno i ni arwain at fethu â darparu gwasanaeth i chi a/neu y gallai eich gwneud yn atebol i achos cyfreithiol.

Byddem yn eich hysbysu bod gennych yr hawl o dan Erthygl 21 GDPR ar unrhyw adeg i wrthwynebu i’r Awdurdod am y ffaith ein bod yn prosesu eich data personol at ddibenion cyflawni tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol.

Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo unrhyw elfen o'ch data personol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Bydd holl waith prosesu eich data personol gennym yn cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig neu yng ngwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.

Ni fydd y Cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.Sylwer, o dan y GDPR, y rhoddir yr hawliau canlynol i unigolion mewn perthynas â'u data personol:

  • yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan reolwr data.
  • yr hawl i gywiro data gwallus gan reolwr data.
  • yr hawl i ddileu eu data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig). 
  • yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
  • yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
  • yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data'n electronig i reolwr data arall).

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y defnydd o'r wybodaeth, os hoffech gael mynediad at y wybodaeth neu os ydych yn dymuno gwneud unrhyw gŵyn ynghylch prosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor yn y Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol. , Y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.

Sylwer os ydych yn cyflwyno cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r ac rydych yn anfodlon ar ymateb y cyngor, mae hawl gennych i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a mwy o wybodaeth am eich hawliau ar  wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.