Hepgor gwe-lywio

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Blynyddoedd Cynnar a Dechrau'n Deg

  1. Wrth roi eich gwybodaeth bersonol i ni, rydych drwy hyn yn cydnabod mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolydd Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu (at ddibenion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (RhDDC y DU) a Deddf Diogelu Data 2018). 

  2. Bydd y data personol a gasglwn gennych yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor (er mwyn iddo gyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:

    • Darparu cymorth rhianta
    • Sicrhau bod cymorth rhianta a roddir yn diwallu anghenion y teuluoedd/defnyddwyr gwasanaeth  
    • Hyrwyddo cymorth sy'n gysylltiedig â'r dyfodol e.e. grwpiau rhianta   
    • Cwblhau adroddiadau i gyllidwyr
    • Cysylltu â gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal eraill i ddarparu cymorth i'r teulu  
    • Cysylltu ag adrannau eraill o fewn y Cyngor i ddarparu gwasanaeth llawn ac i ganiatáu mynediad at wasanaethau cymorth  

      Efallai y byddwn yn prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol i ddarparu Dechrau'n Deg;  

    • Manylion personol – Enw, dyddiad geni, Rhif GIG 
    • Gwybodaeth gyswllt – Cyfeiriad, cod post, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost  
    • Data Iechyd  
    • Hil 
    • Tarddiad Ethnig 
    • Rhywedd

  3. Fel Rheolydd Data, mae'n ofynnol i'r Cyngor o dan RhDDC y DU roi gwybod i chi pa un o "Amodau Prosesu Data" Erthygl 6 RhDDC y DU y mae'n dibynnu arnynt er mwyn prosesu eich data personol yn gyfreithlon.  Yn hyn o beth, rhowch wybod ein bod yn dibynnu ar y ddau amod Erthygl 6 canlynol mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych; 

    1. Mae prosesu'r data'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn destun iddi". (Erthygl 6(1)(c) GDPR y DU)
    2. Mae'r prosesu data'n angenrheidiol ar gyfer perfformio tasg a wneir er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol a ymddiriedir i'r rheolwr." (Erthygl 6(1)(e) GDPR y DU).

  4. Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol yn ddiogel gyda'r trydydd partïon canlynol (h.y. personau/cyrff/endidau y tu allan i'r Cyngor) yn unol â'r trefniadau rhannu data sydd gennym ar waith gyda'r trydydd partïon hynny 

    • Ysgolion a darparwyr gofal plant  
    • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - staff iechyd cysylltiedig 
    • Llywodraeth Cymru – at ddibenion adrodd, bydd yr holl ddata Dechrau'n Deg, gan gynnwys data adnabyddadwy, yn cael ei rannu â Llywodraeth Cymru at ddibenion ymchwil a gwerthuso.  Am ragor o wybodaeth ewch i hysbysiad preifatrwydd Dechrau'n Deg: LLYW.CYMRU
    • Awdurdodau Lleol eraill, lle gofynnir am wasanaeth y tu allan i ffiniau Castell-nedd Port Talbot

  5. Bydd y wybodaeth bersonol a gesglir gennych yn cael ei chadw gan y Cyngor am gyfnod o 15 mlynedd

  6. Nodwch ei fod yn ofynnol i ni gasglu data personol penodol o dan ofynion statudol, ac mewn achosion o'r fath gall methiant gennych i ddarparu'r wybodaeth honno i ni arwain at y Cyngor yn methu â darparu gwasanaeth i chi a/neu gallai eich gwneud yn atebol i achos cyfreithiol.

  7. Hoffem eich hysbysu, o dan Erthygl 21 RhDDC y DU, fod gennych yr hawl ar unrhyw adeg i nodi gwrthwynebiad o ran y ffaith bod yr Awdurdod yn prosesu eich data personol at ddibenion cyflawni tasg gyhoeddus neu'n arfer ein hawdurdod swyddogol.

  8. Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo unrhyw ddarn o'ch data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu wlad arall sydd â phenderfyniad digonolrwydd.  Bydd yr holl brosesu o'ch data personol gennym yn cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu wlad arall sydd â phenderfyniad digonolrwydd.

  9. Ni fydd y Cyngor yn defnyddio eich data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd. 

  10. Byddwch yn gwybod bod unigolion yn cael yr hawliau canlynol o dan RhDDC y DU mewn perthynas â'u data personol: 

    1. Yr hawl i gael mynediad at eu data personol a gedwir gan rheolwr data.
    2. Yr hawl i gael data anghywir eu cywiro gan rheolwr data.
    3. Yr hawl i gael eu data wedi'i ddileu (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    4. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan rheolydd data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
    5. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
    6. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i rheolydd data arall).

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

  1. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'n defnydd o'ch data personol, os hoffech gael mynediad at hynny neu os hoffech wneud unrhyw gŵyn ynglŷn â phrosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor, Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr, y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.

  2. Os ydych yn gwneud cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r Cyngor (gweler 11 uchod) ac yn anfodlon ag ymateb y Cyngor, mae gennych hawl i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.  Gellir cael manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.