Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Gwasanaeth Cwnsela Mewn Ysgolion - oedolion

  1. Wrth ddarparu eich gwybodaeth bersonol i ni, rydych drwy hyn yn cydnabod mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ("y Cyngor") yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol a roddwch ar y ffurflen hon (at ddibenion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)).

2. Bydd y data personol a gasglwn gennych drwy'r ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor (yn unol â chyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:

    • Bydd y data personol a gasglwn gennych yn cael ei ddefnyddio gan Wasanaeth Cwnsela mewn Ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (SBCS CBSCNPT) at ddibenion gwerthuso gwasanaeth. Rydym yn cadw gwybodaeth ddemograffig a hefyd gwybodaeth am eich lles yn ogystal â nodiadau byr am ein gwaith gyda chi. Rydym yn cadw cofnodion er mwyn asesu pa mor effeithiol rydym wedi bod o ran eich helpu ac i allu dangos hyn i gyllidwyr.

3. Fel Rheolwr Data, mae'n ofynnol i'r Cyngor o dan GDPR roi gwybod i chi pa un o'r "Amodau Prosesu Data" Erthygl 6 GDPR y mae'n dibynnu arnynt i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon. Yn hyn o beth, cofiwch ein bod yn dibynnu ar y ddau amod Erthygl 6 canlynol mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych ar y ffurflen hon:

i. “Mae'r prosesu data yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn ddarostyngedig iddi". (Erthygl 6 (c) GDPR).

ii. “Mae'r prosesu data yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd." (Erthygl 6 (e) GDPR)

4. Ni fyddwn yn rhannu eich data personol adnabyddadwy gydag unrhyw drydydd parti (h.y. personau / cyrff / endidau y tu allan i’r Cyngor) oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith, eich cytundeb ymlaen llaw neu ein bod yn credu y gallech chi neu rywun arall fod mewn perygl sylweddol.

5. Bydd y wybodaeth bersonol a gesglir gennych yn cael ei chadw gan y Cyngor am gyfnod o 7 mlynedd ar ôl cwblhau ein gwaith gyda chi.

6. Sylwch ei bod yn ofynnol i ni gasglu data personol penodol o dan ofynion statudol ac mewn achosion o'r fath gallai methiant gennych chi i ddarparu'r wybodaeth honno i ni olygu na fydd y Cyngor yn gallu darparu gwasanaeth i chi.

7. Byddem yn eich hysbysu bod gennych yr hawl o dan Erthygl 21 GDPR ar unrhyw adeg i wrthwynebu i’r Awdurdod am y ffaith ein bod yn prosesu eich data personol at ddibenion cyflawni tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol.

8. Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo unrhyw ran o’ch data personol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Bydd yr holl brosesu eich data personol gennym ni yn cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig neu wledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd.

9. Ni fydd y Cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

10. Gofynnir i unigolion o dan GDPR y DU gael yr hawliau canlynol mewn perthynas â'u data personol:

ii. Yr hawl i gael mynediad i'w data personol a gedwir gan reolwr data.
ii. Yr hawl i gywiro data anghywir gan reolwr data.
iii. Yr hawl i ddileu eu data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
iv. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (o dan amgylchiadau cyfyngedig penodol).
v. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
vi. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i reolwr data arall).

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

11. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'n defnydd o'ch data personol, rydych am gael mynediad i’r data neu os ydych am wneud cwyn ynglŷn â phrosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor yn y Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, Port Talbot, SA13 1PJ

12. Os byddwch yn gwneud cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r Cyngor (gweler 10 uchod) a'ch bod yn anfodlon ag ymateb y Cyngor, mae gennych hawl i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir cael manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a rhagor o wybodaeth am eich hawliau o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.