Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Gwybodaeth a ddarperir mewn perthynas â Difrod Llifogydd

Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn nodi sut mae CBS Castell-nedd Port Talbot (“y Cyngor”) yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i CBS Castell-nedd Port Talbot gan gynnwys pan fyddwch yn defnyddio gwefan y Cyngor ac yn cyflwyno gwybodaeth yn electronig.

Cefndir

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol y gellir eich adnabod ohoni wrth ddefnyddio ein gwefan, neu wrth gyflwyno dogfennaeth (gan gynnwys sylwadau), yna gallwch fod yn sicr y bydd ond yn cael ei defnyddio yn unol â'r datganiad preifatrwydd hwn.

Gall y Cyngor newid y polisi hwn o bryd i'w gilydd trwy ddiweddaru'r Datganiad Preifatrwydd hwn. Dylech wirio ein gwefan o bryd i'w gilydd i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Mae'r polisi hwn yn weithredol o 25 Ionawr 2021.

Wrth ddarparu eich gwybodaeth bersonol i ni, rydych drwy hyn yn cydnabod mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ("y Cyngor") yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol a roddwch ar y ffurflen hon (at ddibenion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2016 (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)).

Yr hyn a gasglwn

Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol:
  • Enwau, dyddiad geni a manylion cyswllt
  • Rhifau Yswiriant Gwladol
  • Manylion Treth y Cyngor
  • Manylion banc
  • Gwybodaeth am eich eiddo a'ch effeithiau personol

Beth rydym yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn

Y Cyngor yw'r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth arfer ein hawdurdod swyddogol yn unol ag ac fel y rhagnodir gan statud ac ni fydd yn cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Ni fyddwn yn rhannu eich data gyda thrydydd partïon oni bai bod gofyn i ni wneud hynny neu y caniateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Fel Rheolwr Data, mae'n ofynnol i'r Cyngor o dan GDPR roi gwybod i chi pa un o'r "Amodau Prosesu Data" Erthygl 6 GDPR y mae'n dibynnu arnynt i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon. Yn hyn o beth, cofiwch ein bod yn dibynnu ar y ddau amod Erthygl 6 canlynol mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych ar y ffurflen hon:

  • “Mae'r prosesu data yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol y mae'r rheolwr yn ddarostyngedig iddi". (Erthygl 6 (c) GDPR).
  • “Mae'r prosesu data yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol a freiniwyd yn y rheolydd." (Erthygl 6 (e) GDPR).

Byddwn ond yn datgelu eich data personol pan fydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith neu pan fydd gennym eich caniatâd, ac ar adegau i’r canlynol:

  • Llywodraeth Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Awdurdod Glo
  • Yswirwyr y Cyngor
  • Unrhyw sefydliad sydd â swyddogaeth reoleiddio.

Lle mae gofyn i ni rannu eich gwybodaeth byddwn yn sicrhau bod mesurau diogelu priodol yn cael eu rhoi mewn lle i ddiogelu eich gwybodaeth.

Diogelwch

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad heb awdurdod, rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol addas ar waith i ddiogelu a sicrhau'r wybodaeth a gasglwn ar-lein.

Rheoli eich gwybodaeth bersonol

Sylwch fod gofyn i ni gasglu data personol penodol o dan ofynion statudol ac mewn achosion o'r fath gallai methiant gennych i ddarparu'r wybodaeth honno i ni arwain at fethu â darparu gwasanaeth i chi a/neu y gallai eich gwneud yn atebol i achos cyfreithiol.

O dan Erthygl 21 o'r GDPR, byddwn yn rhoi gwybod i chi fod gennych hawl ar unrhyw adeg i wrthwynebu'r Awdurdod am y ffaith ein bod yn prosesu eich data personol at ddibenion cyflawni tasg gyhoeddus neu arfer ein hawdurdod swyddogol.

Ni fydd y Cyngor yn trosglwyddo unrhyw ran o'ch data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu wlad arall sydd â phenderfyniad digonolrwydd.  Bydd prosesu eich data personol gennym ni yn cael ei wneud yn y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu wlad arall gyda phenderfyniad digonolrwydd.

Ni fydd y Cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion  gwneud penderfyniadau awtomataidd.

Gallwch ddewis cyfyngu ar gasglu neu ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol a/neu ofyn am ddileu gwybodaeth bersonol nad yw'n ofynnol ar gyfer cofrestrau (au) statudol yr adran.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'n defnydd o'ch data personol, rydych am gael mynediad i’r data neu os ydych am wneud cwyn ynglŷn â phrosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor yn y Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, SA13 1PJ.