Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Dogfen

Hysbysiad Preifatrwydd - Pawennau ar Batrol

  1. Wrth roi eich gwybodaeth bersonol i ni, rydych drwy hyn yn cydnabod mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r Rheolwr Data ar gyfer yr holl wybodaeth bersonol a roddwch (at ddibenion Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR) 2016 a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA)) ac rydych yn cydsynio i'r Cyngor ddefnyddio'ch data personol at y dibenion a nodir ym mharagraff 2 isod:

    Gan eich bod yn cydsynio i’r Cyngor ddefnyddio’ch data personol, fe’ch hysbysir y gallwch dynnu eich caniatâd i’r prosesu hwn yn ôl ar unrhyw adeg drwy ein hysbysu’n ysgrifenedig.

  2. Bydd y data personol a gasglwn gennych drwy'r ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor (yn unol â chyflawni ei swyddogaethau statudol a busnes amrywiol) at y dibenion canlynol:
    • Am weinyddu ac ymuno â'r Cynllun Pawennau ar Batrol.
    • At ddibenion gwerthuso'r cynllun i weld faint o aelodau sydd gennym ym mhob ardal cod post ar draws Castell-nedd Port Talbot.
    • At ddiben anfon cylchlythyrau Paws ar Batrol ac ambell fwletin arbennig trwy e-bost a'r post.

  3. Fel Rheolwr Data, mae'n ofynnol i'r Cyngor o dan GDPR roi gwybod i chi pa un o'r "Amodau Prosesu Data" Erthygl 6 GDPR y mae'n dibynnu arnynt i brosesu'ch data personol yn gyfreithlon. Yn hyn o beth, cofiwch ein bod yn dibynnu ar y ddau amod Erthygl 6 canlynol mewn perthynas â'r data a ddarperir gennych ar y ffurflen hon:
    • Mae gwrthrych y data wedi rhoi caniatâd i brosesu ei ddata personol at un neu fwy o ddibenion penodol.” (Erthygl 6(1)(a) GDPR y DU)

4.  Ni fyddwn yn rhannu eich data personol ag unrhyw drydydd parti (h.y. personau / cyrff / endidau y tu allan i’r Cyngor) oni bai ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

5. Bydd y wybodaeth bersonol a gesglir oddi wrthych yn cael ei chadw gan y Cyngor hyd nes y byddwch yn gorffen fel aelod o'r Cynllun Pawennau ar Batrol. Bydd y ffurflenni papur yn cael eu dinistrio ar ôl i fanylion gael eu hychwanegu at y gronfa ddata electronig.

6. Sylwch fod gofyn i ni gasglu data personol penodol o dan ofynion statudol ac mewn achosion o'r fath gallai methiant gennych i ddarparu'r wybodaeth honno i ni arwain at fethu â darparu gwasanaeth i chi a/neu y gallai eich gwneud yn atebol i achos cyfreithiol.

7.  Ni fydd y Cyngor yn defnyddio'ch data personol at ddibenion gwneud penderfyniadau awtomataidd.

8.  Gofynnir i unigolion o dan GDPR y DU gael yr hawliau canlynol mewn perthynas â'u data personol:

i. Yr hawl i gael mynediad i'w data personol a gedwir gan reolwr data.
ii. Yr hawl i gywiro data anghywir gan reolwr data.
iii. Yr hawl i ddileu eu data (mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig).
iv. Yr hawl i gyfyngu ar brosesu eu data gan reolwr data (o dan amgylchiadau cyfyngedig penodol).
v. Yr hawl i wrthwynebu i'w data gael ei ddefnyddio ar gyfer marchnata uniongyrchol.
vi. Yr hawl i gludadwyedd data (h.y. trosglwyddo data yn electronig i reolwr data arall).

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr holl hawliau uchod o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

9.  Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'n defnydd o'ch data personol, rydych am gael mynediad i’r data neu os ydych am wneud cwyn ynglŷn â phrosesu eich data personol, cysylltwch â Swyddog Diogelu Data'r Cyngor yn y Gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, y Ganolfan Ddinesig, Port Talbot, Port Talbot, SA13 1PJ.

10.  Os byddwch yn gwneud cais neu gŵyn i Swyddog Diogelu Data'r Cyngor (gweler 10 uchod) a'ch bod yn anfodlon ag ymateb y Cyngor, mae gennych hawl i gwyno'n uniongyrchol i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Gellir cael manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd a rhagor o wybodaeth am eich hawliau o wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.