Canllaw i Fudd-dal Tai
Credyd Cynhwysol
Gyda rhai eithriadau, mae Budd-dal Tai wedi’i ddisodli gan fudd-dal newydd o’r enw Credyd Cynhwysol.
Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys cymorth gyda chostau tai, felly nid oes angen i chi wneud cais am Fudd-dal Tai.
Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys cymorth gyda chostau tai, felly nid oes angen i chi wneud cais am Fudd-dal Tai.
Cymorth Tai a Chymorth Treth y Cyngor
Mae Budd-dal Tai yn helpu i dalu rhan neu’r cyfan o’ch rhent os ydych ar incwm isel.
Dim ond os yw un o’r canlynol yn berthnasol y gallwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai:
Dim ond os yw un o’r canlynol yn berthnasol y gallwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai:
- rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych yn byw mewn llety â chymorth, llety gwarchod neu lety dros dro
Cymhwysedd
Bydd ein cyfrifiannell budd‑daliadau yn eich helpu i ganfod a oes gennych hawl i wneud cais am Fudd-dal Tai.
Mae’r cyfrifiannell yn rhad ac am ddim i’w defnyddio, ac mae’r manylion rydych yn eu rhoi yn ddienw.
Cyn i chi ddechrau, gwnewch yn siŵr bod gennych wybodaeth am eich cynilion, incwm, pensiynau a’r budd-daliadau rydych yn eu cael ar hyn o bryd (ar eich cyfer chi a’ch partner).

Pwy na all wneud cais
Fel arfer, ni fyddwch yn cael Budd-dal Tai os ydych:
- yn cael Credyd Cynhwysol, neu’n gymwys i wneud cais am Gredyd Cynhwysol
- yn rhentu’ch cartref gan berthynas agos sy’n byw yn yr un cartref
- yn berchen ar yr eiddo rydych yn gwneud cais am fudd-dal ar ei gyfer, neu os oes gennych forgais ar yr eiddo hwnnw
- chi a’ch partner â chynilion neu fuddsoddiadau ar y cyd o fwy na £16,000
- yn ddinesydd tramor sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo
Cysylltwch â ni
Gallwch gysylltu â ni ar-lein i gael help neu gyngor ynghylch Budd-dal Tai neu Gymorth Treth y Cyngor.
Yn bersonol
- drwy ymweld â’r adran fudd-daliadau yn un o’n canolfannau gwasanaeth i gwsmeriaid yn:
-
Canolfan Ddinesig Castell-nedd, Castell-nedd, SA11 3QZ
-
Canolfan Ddinesig Port Talbot, Port Talbot, SA13 1PJ
-
Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy:
Mae ein llinellau ffôn ar agor rhwng 9.30yb a 4.30yp.