E-bost twyll Treth y Cyngor
Rydym wedi cael gwybod bod e-bost twyll yn cael ei anfon at rai trigolion. Mae'r e-bost yn honni bod credyd wedi'i gofnodi ar eich cyfrif Treth y Cyngor.
Nid yw'r e-bost hwn yn ddilys. Efallai y bydd yn ceisio cael gwybodaeth bersonol neu fanylion ariannol gennych, neu'n annog derbynwyr i glicio ar ddolenni maleisus neu agor atodiadau.
- Chlicio ar unrhyw ddolenni yn yr e-bost.
- Agor unrhyw atodiadau.
- Darparu unrhyw wybodaeth bersonol, manylion bancio nac unrhyw wybodaeth am eich cyfrif.
- Anfonwch unrhyw negeseuon e-bost amheus ymlaen at report@phishing.gov.uk.
- Dilewch unrhyw negeseuon e-bost amheus.
Mae twyllwyr yn aml yn gwneud i'w negeseuon e-bost edrych yn ddilys drwy ddefnyddio logos swyddogol, brandio neu eiriau cyfarwydd. Cymerwch eiliad bob amser i wirio unrhyw gyfathrebiad annisgwyl cyn cymryd unrhyw gamau.
Rhannwch y rhybudd hwn gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr er mwyn helpu i atal eraill rhag dioddef twyll.
Bydd unrhyw neges e-bost gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn dod i ben gydag @npt.gov.uk.