Costyngiad gofalwyr
Gallwch gael eich ystyried fel gofalwr at ddiben Treth y Cyngor os ydych yn gyflogedig i ddarparu gofal neu os ydych yn darparu gofal ar sail wirfoddol.
Gofalwr Cyflogedig
I'w ystyried fel gofalwr cyflogedig am ddibenion Treth y Cyngor, rhaid i chi fod yn:
- Preswylydd yn yr un eiddo â'r person yr ydych yn gofalu amdano a bod eich llety'n cael ei ddarparu ganddynt
 - A gyflogir i roi’r gofal hwn ac rydych wedi cael eich cyflwyno trwy elusen neu awdurdod lleol
 - Ennill incwm heb fod yn fwy na £ 44.00 yr wythnos
 - Bod yn gyflogedig am o leiaf 24 awr yr wythnos
 
Gofalwyr Gwirfoddol
I'w ystyried fel gofalwr gwirfoddol at ddibenion y Dreth Gyngor mae'n rhaid i chi fod yn:
- Preswylydd yn yr un eiddo â'r person yr ydych yn darparu gofal i
 - Ni all y person sy'n derbyn gofal fod yn briod, partner neu blentyn o dan 18 oed.
 - Rhaid i chi ddarparu o leiaf 35 awr o ofal bob wythnos
 
Rhaid i'r person rydych chi'n gofalu amdano fod yn derbyn un o'r canlynol hefyd:
- Lwfans Gweini ar unrhyw gyfradd
 - Y gyfradd ganol neu uchaf o’r elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl
 - Y gyfradd uchaf o Lwfans Gweini Cyson
 - Yr elfen byw bob dydd o Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP)
 - Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog