Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Amhariad gwybyddol sylweddol

Roedd hyn yn cael ei adnabod gynt fel y disgownt i berson ag Nam Meddyliol Difrifol (SMI).

Trosolwg

Gallwch gyflwyno cais am ostyngiad ar eich bil Treth y Cyngor os oes gennych chi neu rywun rydych yn byw gydag ef amhariad gwybyddol sylweddol. Mae gan berson amhariad gwybyddol sylweddol os oes ganddo gyflwr meddyliol difrifol a pharhaol neu newid niwrolegol sy'n effeithio ar allu'r ymennydd i weithredu ac sy'n cael effaith sylweddol ar fywyd pob dydd yr unigolyn hwnnw. 

Bydd angen i chi:

  • gael cadarnhad ysgrifenedig gan weithiwr meddygol proffesiynol
  • fod yn gymwys i gael un o'r budd-daliadau cymwys

Budd-daliadau cymwys

Y budd-daliadau cymhwyso yw:

  • Budd-dal Anabledd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Atodiad i'r Anghyflogadwy
  • Lwfans Gweithio i'r Anabl
  • Cyfradd uwch neu ganolig elfen gofal y Lwfans Byw i'r Anabl
  • Taliadau Annibyniaeth Bersonol (TAP)
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Budd-dal Analluogrwydd o dan Adran 30A neu adrannau 40 a 41 Deddf Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau a Budd-daliadau) 1992
  • Pensiwn anabledd cynyddol ar gyfer gweini cyson
  • Cymhorthdal incwm sy'n cynnwys premiwm anabledd
  • Credyd Cynhwysol (mewn amgylchiadau pan fo cyfyngiad ar allu person i weithio a/neu i wneud gweithgaredd yn gysylltiedig â gwaith)
  • Taliadau Annibyniaeth Lluoedd Arfog

Os ydych yn gymwys fel person ag amhariad gwybyddol sylweddol

Byddwch yn cael gostyngiad o 100% os ydych yn gymwys fel un sydd ag amhariad gwybyddol sylweddol a bod un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn byw ar eich pen eich hun
  • mae unrhyw oedolion eraill yn eich cartref naill ai'n gymwys fel person ag amhariad gwybyddol sylweddol neu'n fyfyrwyr amser llawn

Os ydych yn byw gyda rhywun ag amhariad gwybyddol sylweddol

Byddwch yn cael gostyngiad o 25% os ydych yn byw gyda rhywun sy'n gymwys fel un sydd ag amhariad gwybyddol sylweddol a naill ai:

  • nid oes unrhyw oedolion eraill yn eich aelwyd
  • mae pawb arall yn eich cartref yn cael eu diystyru

Gwneud cais

Er mwyn i'r disgownt gael ei ganiatáu, mae angen y canlynol arnom:

  • cadarnhad o nifer yr oedolion sy'n byw yn yr eiddo
  • enw a dyddiad geni'r person y credir bod ganddo amhariad gwybyddol sylweddol
  • manylion unrhyw fudd-daliadau cymwys y mae'n eu derbyn. Gall hyn naill ai fod yn gopi o'u llyfr taliadau neu'n llythyr swyddogol ac mae'n rhaid iddo ddangos enw'r person, y math o fudd-dal, y dyddiad y'i dyfarnwyd a'r swm
  • enw a chyfeiriad y meddyg

Rhannu eich Adborth