Newid mewn amgylchiadau
Trosolwg
Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith am unrhyw newid a allai effeithio ar faint o Fudd-dal Tai neu Ostyniad Treth Gyngor rydych yn ei gael.
Os byddwch yn oedi cyn rhoi gwybod i ni am newid:
- gallech golli hawl i fudd-dal ychwanegol
- efallai y byddwn yn eich gordalu, a bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r swm hwnnw
Symud cartref
Os ydych yn symud cartref, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl drwy lenwi’r ffurflen ar-lein.
Byddwn yn cau eich hen gyfrif fel na fyddwch yn cael eich gordalu.
Os byddwch yn aros o fewn Castell-nedd Port Talbot, byddwn yn sefydlu eich cyfrif newydd ar eich cyfer.
Landlordiaid ac asiantau gosod
Rhowch wybod i ni ar unwaith am unrhyw newidiadau i denantiaeth.
Mae hyn yn ein helpu i anfon y biliau cywir ac i gymhwyso gostyngiadau neu eithriadau mewn pryd.
Mae angen i chi:
- roi union ddyddiadau dechrau a gorffen pob tenantiaeth
- darparu enwau llawn a chyfeiriadau pob tenant
- cynnwys rhifau cyswllt ar gyfer eich tenant a chi eich hun
- rhoi gwybod i ni a yw’r eiddo wedi’i ddodrefnu neu heb ddodrefn
- ymateb o fewn 21 diwrnod er mwyn osgoi dirwy
- rhannu copi o’r cytundeb tenantiaeth os byddwn yn gofyn amdano
Gweler rhagor o wybodaeth sy’n ymwneud â thenantiaethau ar gyfer landlordiaid.
Rhoi gwybod am farwolaeth
Rydym am wneud y broses hon mor hawdd â phosibl.
Cysylltwch â ni fel y gallwn ddiweddaru’r cyfrif Treth Gyngor.
Bydd angen i ni gael:
- enw a chyfeiriad y person sydd wedi marw
- dyddiad y farwolaeth
- manylion unrhyw un sy’n parhau i fyw yn yr eiddo (efallai y bydd ganddynt ostyngiad o 25%)
- a oedd y person yn byw ar ei ben ei hun, ac a oedd yn berchen ar yr eiddo neu’n ei rentu
- os oedd yr eiddo’n cael ei rentu, bydd angen hefyd enw’r landlord