Datganiad I'r Wasg
Cyngor yn cofrestru gyda chynllun sy’n ei gwneud hi’n haws i staff wirfoddoli gyda Heddlu De Cymru
Mae'r erthygl hon yn fwy na 2 mlwydd oed
Efallai na fydd lluniau ar gael ar gyfer erthyglau dros flwydd oed
24 Ebrill 2023
Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw’r awdurdod lleol cyntaf yn ardal llu Heddlu De Cymru i gofrestru ar gyfer cynllun Plismona â Chymorth Cyflogwyr sy’n hybu niferoedd yr heddlu, gan beri fod cymunedau’n fwy diogel.
Dan y cynllun, sydd bellach yn weithredol, bydd y cyngor yn ei gwneud hi’n haws i staff ddod yn Gwnstabliaid Arbennig neu’n Wirfoddolwyr Cefnogi’r Heddlu drwy roi amser rhydd â thal iddynt i ymgymryd â’u dyletswyddau a’u hyfforddiant gyda’r heddlu.
Yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd ddydd Gwener 21 Ebrill, 2023, trosglwyddodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol (ACC) Danny Richards dystysgrif i Brif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot Karen Jones, ac Arweinydd y Cyngor y Cynghorydd Steve Hunt, i gadarnhau ymwneud y cyngor â’r cynllun.
Yn ôl ACC Richards: “Hoffwn ddiolch i’r cyngor am gydweithio gyda ni. Bydd y cynllun hwn yn rhoi mwy o adnoddau i ni gan alluogi i’r gwaith o blismona fod yn fwy gweladwy yn ein cymunedau.
Bydd y cyngor hefyd yn elwa oherwydd wrth i staff sy’n cymryd rhan yn y cynllun wneud eu gwaith beunyddiol arferol, bydd ganddynt fanteision hyfforddiant a phrofiad yr heddlu, gan ddod â llu o sgiliau yn ei sgil, gan gynnwys hyder, pendantrwydd, datrys gwrthdaro, rheoli argyfwng a gwell cyswllt â thimau plismona lleol ac uwch-swyddogion.”
Meddai’r Prif Weithredwr Karen Jones: “Rwy’n llwyr gefnogi’r cynllun sy’n cael ei lansio heddiw. Un o amcanion ein Cynllun Corfforaethol fel cyngor yw ‘helpu pobl i fyw eu bywydau’. Os ydych chi’n gofyn i bobl sut hoffen nhw fyw eu bywydau, mae bod yn ddiogel a theimlo’n ddiogel reit ar frig y rhestr.”
Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hunt: “Bydd hyn yn cael effaith hynod gadarnhaol ar Heddlu De Cymru a chymunedau ein trefi, ein cymoedd a’n pentrefi, a hoffwn annog unrhyw aelod o staff sydd â diddordeb mewn bod yn Gwnstabl Arbennig neu’n Wirfoddolwr Cefnogi’r Heddlu i gysylltu â’n tîm HR.”
Hyfforddodd Wayne Curtis, Rheolwr Cefn Gwlad Parc Gwledig Margam, sy’n eiddo i Gyngor Castell-nedd Port Talbot, fel Cwnstabl Arbennig y llynedd.
Dywedodd wrth y digwyddiad: “Rwy’n hynod falch o wisgo lifrai Heddlu De Cymru, ble dydyn nhw ddim yn eich trin chi fel ‘arbennig’, maen nhw’n eich trin fel swyddog. Dyw llawer ddim yn sylweddoli fod Cwnstabl Arbennig yn derbyn yr un hyfforddiant, hyd at ryw bwynt, yr un offer, a’r un grymoedd â swyddogion llawn amser.
“Yn ystod y cyfnod byr yr ydw i wedi bod gyda Heddlu De Cymru, rwyf wedi ennill parch enfawr at y swydd a wnânt, a bydd y cynllun hwn yn fy yn galluogi i chwarae mwy o rôl yn yr heddlu. Wrth gydweithwyr o’r cyngor sy’n ystyried gwirfoddoli, fe ddywedwn i ‘ewch amdani!’”