Prydau ysgol am ddim
Mae pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael Prydau Ysgol Gynradd am ddim (UPFSM) yn awtomatig.
Bydd angen i chi wneud cais am brydau ysgol uwchradd am ddim ar gyfer eich plentyn.
Os ydych chi'n derbyn budd-daliadau penodol gallwch wneud cais i gael rhagor o gymorth i'ch plentyn.
Mwy o gefnogaeth
Efallai y byddwch yn gallu cael rhagor o gefnogaeth i'ch plentyn, fel:
- cymorth gyda hanfodion ysgol
- cymorth gyda chostau ysgol
- costau byw
- cyllid ychwanegol ar gyfer eich ysgol
Gwiriwch eich cymhwysedd cyn gwneud cais.
Cymhwysedd
I gael mynediad at brydau ysgol am ddim a chymorth pellach, rhaid i chi dderbyn un o'r budd-daliadau canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Credyd Treth Plant - Cyn belled â bod eich incwm blynyddol yn £16,190 neu lai cyn treth ac nad ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol - Rhaid i enillion eich cartref fod yn llai na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw incwm o fudd-daliadau
- Cymorth o dan Ddeddf Mewnfudo a Cheiswyr Lloches 1999
Efallai y byddwch yn gymwys os nad oes gennych hawl i arian cyhoeddus (NRPF).
Gwnewch gais ar-lein
Os yw eich plentyn yn gymwys, gallwch wneud cais am brydau ysgol am ddim.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen:
- eich enw
- eich manylion cyswllt
- enw eich plentyn
- manylion am ysgol eich plentyn
- rhif Yswiriant Gwladol (os yw ar gael)
Beth sy'n digwydd nesaf
Byddwn yn eich hysbysu i gadarnhau a yw eich plentyn yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a phryd.
Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais neu os oes angen help arnoch i wneud cais, cysylltwch â:
Gallwch hefyd gysylltu â'ch ysgol os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen help arnoch i wneud cais.