Diogelu mewn ysgolion
Mae gofal a lles disgyblion yn brif bryder ym mhob ysgol.
Rhaid i bawb sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc hybu eu lles a helpu i'w cadw'n ddiogel. Mae hyn yn cynnwys:
- oedolion
- gweithwyr
- gwirfoddolwyr
- gwasanaethau dan gontract
- darparwyr
Rhaid iddynt weithredu os ydynt yn meddwl neu'n gwybod bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei niweidio.
Polisi Diogelu ac Amddiffyn Plant
Rhaid i bob ysgol gael polisi Diogelu ac Amddiffyn Plant. Rhaid i staff ddilyn y polisi hwn i ddiogelu a hyrwyddo lles plant.
Mae copi o bolisi mabwysiedig yr ysgol ar gael ar eu gwefan neu drwy gysylltu â swyddfa’r ysgol.
Person Diogelu Dynodedig (PDD)
Mae gan bob ysgol aelod o staff a elwir yn Berson Diogelu Dynodedig (PDD). Mae’r PDD yn gyfrifol am:
- holl faterion diogelu
- ymdrin ag achosion unigol o gamdriniaeth a amheuir
- darparu ffynhonnell o arbenigedd a chyngor i'r holl staff
Cysylltwch ag ysgol eich plentyn am fanylion ei PDD.
Atgyfeiriadau at y Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhaid i ysgolion gyfeirio achos o gam-drin a amheuir at y Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae cymorth rhieni yn bwysig pan fydd ysgolion yn cymryd camau i ddiogelu plant. Mewn rhai achosion, bydd angen gwneud cyfeiriadau heb ganiatâd neu wybodaeth rhieni.
Mae gan ysgolion ddyletswydd statudol i weithredu er lles gorau disgyblion. Rhaid iddynt ddilyn Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Mae hyn yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Cyswllt
Gallwch gysylltu â'n Swyddogion Diogelu Addysg am wybodaeth a chyngor. Dim ond yn ystod oriau swyddfa y caiff e-byst eu monitro.
Dylid cyfeirio ymholiadau brys at PDD yr ysgol. Os oes angen cysylltwch â'r Gwasanaethau Cymdeithasol neu'r Heddlu.