Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Rhaglen diogelwch dŵr

Trosolwg

Mewn partneriaeth â RNLI Port Talbot, a gyda chefnogaeth Chymdeithas Achub Bywyd Frenhinol y DU (RLSS), rydym yn darparu:

  • hyfforddiant diogelwch dŵr mewn ysgolion cynradd
  • sgwrs diogelwch dŵr mewn ysgolion uwchradd

 Mae Ysgolion Dŵr Clyfar yn rhaglen diogelwch dŵr rhad ac am ddim, sydd wedi ennill gwobrau, ac wedi’i chynllunio i ddysgu sgiliau diogelwch dŵr hanfodol i blant.

Bydd disgyblion yn datblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth hanfodol i’w helpu i:

  • aros yn ddiogel o amgylch dŵr
  • gwneud penderfyniadau gwybodus
  • dangos ymddygiad cyfrifol

Beth fydd eich plentyn yn ei ddysgu

Disgyblion y Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2

Bydd plant yn y Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 2 yn cymryd rhan mewn cyflwyniad rhagarweiniol ar ddiogelwch dŵr. Bydd gweithgareddau ymarferol sy’n briodol i’w hoedran yn eu helpu i ddechrau ar eu taith diogelwch dŵr.

Disgyblion Blwyddyn 3 i Flwyddyn 6

Bydd plant ym Mlwyddyn 3 i Flwyddyn 6 yn cymryd rhan mewn sesiynau diogelwch dŵr mwy manwl. Dros chwe wythnos, byddant yn datblygu eu dealltwriaeth a’u sgiliau ar gyfer aros yn ddiogel yn y dŵr ac o’i gwmpas.

Disgyblion Blwyddyn 7 i Flwyddyn 11

Bydd plant ym Mlwyddyn 7 i Flwyddyn 11 yn derbyn sgwrs broffesiynol ar ddiogelwch dŵr gan RNLI Port Talbot. Bydd hyn yn canolbwyntio ar y peryglon a’r risgiau sy’n gysylltiedig â nofio mewn dyfroedd agored.

Llawrlwythiadau

  • Rhaglen Diogelwch Dŵr NPTCBC gyda chefnogaeth gan RLSS DU (PDF 1.84 MB)

Rhannu eich Adborth