Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Gwneud cais am Ryddhad Ardrethi Busnes y Porthladd Rhydd Celtaidd

Os yw eich busnes mewn Safle Treth dynodedig y Porthladd Rhydd Celtaidd, efallai y byddwch yn gymwys i gael hyd at 100% o ryddhad ar eich ardrethi busnes.

Gall y rhyddhad bara am hyd at 5 mlynedd.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 31 Mawrth 2034.

Meini prawf cymhwysedd

I fod yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi y Porthladd Rhydd, rhaid i chi ddangos sut mae eich busnes yn cefnogi nodau'r Porthladd Rhydd Celtaidd.

Nod y Porthladd Rhydd Celtaidd yw:

  • cefnogi buddsoddiad cyhoeddus a phreifat sy'n helpu i gyflawni Safleoedd Treth a Safleoedd Tollau
  • cefnogi trosglwyddiad teg i sero net
    hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel
  • sefydlu'r Porthladd Rhydd Celtaidd fel canolfan ar gyfer masnach a buddsoddiad
  • hybu arloesedd
  • cefnogi prosiectau sy'n:
    • datblygu sgiliau
    • denu buddsoddiad
    • cefnogi adfywio
    • helpu i gyflawni nodau sero net ar draws ardal y Porthladd Rhydd Celtaidd

Meini prawf eiddo

Adeiladau newydd neu eiddo newydd eu meddiannu
  • Eiddo sy'n cael eu meddiannu am y tro cyntaf o fewn y Safle Treth
  • Yn berthnasol i fusnesau newydd a busnesau presennol lle bu ehangu
Ehangu i rhannau newydd neu rhannnau ni ddefnyddiwyd
  • Estyniadau i adeiladau
  • Meddiannu rhannau o adeiladau nad ydynt wedi cael eu defnyddio o'r blaen
  • Gwelliannau sy'n dod â rhannau ni ddefnyddiwyd i ddefnydd, er enghraifft mesaninau
Eiddo sydd ddim yn gymwys
  • Adnewyddu rhannau sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio
  • Ehangu i rhannau sydd eisoes wedi'i feddiannu
  • Datblygiadau a gwblhawyd cyn dynodi'r Porthladd Rhydd
  • Symud o leoliad arall yn ardal y Porthladd Rhydd heb greu swyddi newydd, llawr ychwanegol neu fuddion economaidd

Rheoli cymorthdaliadau

Mae rhyddhad ardrethi busnes y Porthladd Rhydd yn amodol ar reolau rheoli cymorthdaliadau.

Cyn derbyn y rhyddhad, rhaid i chi sicrhau bod eich busnes yn bodloni'r gofynion hyn. Rhaid i chi barhau i'w bodloni ar ôl i'r rhyddhad gael ei ddyfarnu.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch ganllawiau GOV.UK ar:

Gwneud cais ar-lein

Rhaid gwneud ceisiadau drwy ddefnyddio'r ffurflen gais ar-lein isod.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi gadarnhau:

  • eich bod yn gymwys
  • eich bod yn cydymffurfio â rheolau rheoli cymorthdaliadau

Gall y Cyngor ofyn am wybodaeth a thystiolaeth ychwanegol i gefnogi eich cais.

Os caiff eich cais ei gymeradwyo, bydd y rhyddhad yn cael ei gymhwyso'n uniongyrchol i'ch cyfrif ardrethi busnes.

Rhannu eich Adborth