Rhyddhad ardrethi lletygarwch bwyd a diod
Trosolwg
Mae'r rhyddhad yn cael ei gynnig o 1 Ebrill 2026 a bydd ar gael tan 31 Mawrth 2027.
Gallai eich busnes fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi ar gyfer lletygarwch bwyd a diod os yw’ch eiddo busnes yn cael ei ddefnyddio fel:
- thafarn
- bwyty
- caffi
- bar
- lleoliad cerddoriaeth fyw
Nod y cynllun yw cefnogi’r sectorau hyn i ymdopi â phwysau costau parhaus.
Beth gewch chi
Os ydych yn gymwys, gallwch gael 15% oddi ar eich biliau ardrethi busnes.
Y mwyaf y gallwch ei gael mewn rhyddhad bob blwyddyn bilio yw £110,000 ar gyfer pob eiddo sy'n cael ei feddiannu gan yr un busnes ledled Cymru.
Gwneud cais
Ffoniwch 01639 686843 i wneud cais.
Mwy o wybodaeth
Mae manylion llawn y cynllun hwn ar gael ar Busnes Cymru.