Atodiad 2 - mewn perthynas â: Deddf Diwygio Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 Ebrill 2023
Dyddiad Diwygiedig: Ebrill 2023
Rhagair
Mae'r polisi canlynol wedi'i addasu o dempled canllawiau Cenedlaethol a gynhyrchwyd i gynorthwyo awdurdodau gorfodi i weithredu Deddf Diwygio Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 o fewn eu portffolio o weithgarwch.
Cynhyrchodd y tîm Safonau Masnach Cenedlaethol ar gyfer Asiantiaid Eiddo a Gosod Eiddo'r polisi templed hwn gan fod canllawiau statudol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn ogystal â Llywodraeth Cymru (pwynt 6.1 yn y ddwy ddogfen) yn datgan y gallai’r awdurdodau gorfodi gysylltu â’r Tîm Safonau Masnach Cenedlaethol i gael rhagor o gyngor ar fabwysiadu polisi gorfodi o dan y Ddeddf hon. Mae'r Ddeddf yn cwmpasu pob rhan o Gymru a Lloegr. Mae gan awdurdodau pwysau a mesurau ddyletswydd statudol i orfodi'r Ddeddf, tra bydd gan awdurdodau dosbarth bŵer diamod i’w gorfodi.
Rhagarweiniad
Mae "Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot" ("y Cyngor") wedi mabwysiadu'r polisi hwn ar gyfer penderfynu ar gosbau ariannol a/neu orchmynion adfer o dan y Ddeddf Diwygio Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 ("y Ddeddf"), gan gyfeirio at yr ystyriaethau a ragnodir yng Nghanllawiau Statudol ar gyfer Awdurdodau Gorfodi [yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau] / Deddf Diwygio Lesddaliad (Rhent Tir) 2022: canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau gorfodi Llywodraeth Cymru] ] ("y canllawiau statudol").
Er bod y Ddeddf yn defnyddio'r termau "landlord" a "tenant", mae’r polisi hwn, yn ogystal â'r canllawiau statudol, yn defnyddio'r termau "landlord" a "lesddeiliad" yn y drefn honno. Mae'r canllawiau statudol yn nodi bod lesddeiliad yn denant sy'n berchen ar fuddiant lesddaliadol mewn eiddo, wedi’i roi gan berson (y landlord) sy’n meddu ar y buddiant rhydd-ddaliadol neu’r buddiant lesddaliadol uwch yn yr eiddo hwnnw.1
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i unrhyw benderfyniad a wneir gan y Cyngor yn rhinwedd ei swyddogaeth fel "awdurdod gorfodi" o dan adran 8 o'r Ddeddf.
Trosolwg o Sancsiynau
Cosbau Ariannol
Mae'r Ddeddf yn darparu y gall y Cyngor osod cosbau ariannol o isafswm o £500 hyd at uchafswm o £30,000 am ddiffyg cydymffurfio perthnasol ag adran 3(1) o'r Ddeddf, pan fo'r Cyngor yn fodlon y tu hwnt i amheuaeth resymol fod diffyg cydymffurfio perthnasol wedi digwydd.
Gorchmynion Adfer
Mae'r Ddeddf hefyd yn darparu y gall y Cyngor orchymyn i’r landlord, neu berson sy'n gweithredu ar ei ran, a dderbyniodd y rhent gwaharddedig2, gan fynd yn groes i adran 3(1) o'r Ddeddf, ad-dalu'r lesddeiliad oedd wedi’i dalu, pan fo'r Cyngor yn fodlon ar sail y pwysau tebygolrwydd bod diffyg cydymffurfio perthnasol wedi digwydd.
Ni all y Cyngor orchymyn bod person yn ad-dalu'r rhent gwaharddedig os yw lesddeiliad wedi gwneud cais o dan adran 13 o'r Ddeddf i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Siambr Eiddo) yn Lloegr neu'r Tribiwnlys Prisio Lesddaliad yng Nghymru (yn y naill gyd-destun neu'r llall byddwn yn cyfeirio at y fforwm perthnasol fel "y Tribiwnlys") mewn perthynas â'r un taliad.
Pan fo unrhyw ran o ddau daliad neu fwy o rent gwaharddedig a wnaed gan lesddeiliad o dan yr un brydles heb gael ei had-dalu, gall y Cyngor wneud un gorchymyn mewn perthynas â'r holl rent gwaharddedig sydd heb ei ad-dalu.
Proses
1 Paragraff 10 o Ganllawiau Statudol DLUHC a Pharagraff 2.6 o Ganllawiau Statudol Llywodraeth Cymru
2 Adran 10(2) Deddf Diwygio Lesddaliad (Rhent Tir) 2022
Mae'r penderfyniad i roi, a'r broses o roi, cosb ariannol a/neu orchymyn adfer yn digwydd mewn sawl cam:
- ymchwilio i'r achos honedig o dorri'r Ddeddf
- penderfynu ar ddifrifoldeb y diffyg cydymffurfio
- hysbysiad o fwriad i roi cosb ariannol a/neu orchymyn adfer
- cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau ysgrifenedig
- adolygu’r sylwadau hynny, os cânt eu rhoi
- rhybudd terfynol yn gorfodi’r gosb ariannol a/neu'r gorchymyn adfer
Gall y Cyngor gyflwyno un hysbysiad o fwriad ac un rhybudd terfynol mewn perthynas â chosb ariannol a gorchymyn adfer3.
Mathau eraill o gamau gweithredu y gellir eu cymryd
Bydd y Cyngor yn penderfynu ar y gosb fwyaf priodol ac effeithiol ac a ddylid rhoi cosb ariannol a/neu orchymyn adfer. O dan amgylchiadau priodol, rhoddir ystyriaeth i gamau llai ffurfiol megis llythyrau rhybuddio neu gyngor i sicrhau cydymffurfiaeth, yn unol â pholisi gorfodi perthnasol y Cyngor.
Pennu lefel y gosb ariannol
Yn unol â darpariaethau'r canllawiau statudol, bydd y Cyngor yn ystyried y ffactorau canlynol wrth benderfynu ar lefel y gosb ariannol i'w rhoi am dorri'r Ddeddf:
- difrifoldeb y diffyg cydymffurfio
- man cychwyn ac ystod
- ffactorau sy’n gwaethygu a lliniaru
- tegwch a chymesuredd
Er bod gan y Cyngor ddisgresiwn i benderfynu ar y lefel briodol o gosb ariannol, o fewn y cyfyngiadau a nodir gan y Ddeddf, rhoddwyd ystyriaeth i'r canllawiau statudol wrth greu'r polisi hwn.
Cam 1 – Pennu’r Difrifoldeb
Po fwyaf difrifol yw'r diffyg cydymffurfio, yr uchaf fydd y gosb ariannol.
3 Atodlen ss.2(2) a 5(3) Deddf Diwygio Lesddaliad (Rhent Tir) 2022
Bydd y Cyngor yn asesu difrifoldeb y diffyg cydymffurfio gan ddefnyddio'r ffactorau euogrwydd a niwed a nodir isod. Nid yw'r ffactorau a restrir yn hollgynhwysfawr, ac os nad yw diffyg cydymffurfio’n disgyn yn daclus i gategori arbennig, efallai y bydd angen pwysoli rhywfaint ar bob ffactor unigol er mwyn gwneud asesiad cyffredinol. Gellir cymhwyso ffactorau dewisol eraill hefyd er cysondeb a gallai’r Cyngor ystyried penderfyniadau mewn awdurdodaethau eraill yn y DU lle mae eu cynnwys yn berthnasol a pherswadiol.
Euogrwydd
Lle mae mwy o euogrwydd, bydd y gosb ariannol yn uwch.
Uchel iawn (Bwriadol*)Uchel |
(Di-hid*) Canolig |
(Esgeulus*) |
Ychydig iawn/Dim |
---|---|---|---|
Pan fo'r landlord wedi torri'r gyfraith yn fwriadol neu ei diystyru'n amlwg, neu â phroffil cyhoeddus uchel ac yn gwybod bod ei weithredoedd yn anghyfreithlon |
Yn gallu rhagweld o ddifrif, neu’n fwriadol ddall i, risg o dorri’r gyfraith ond wedi cymryd y risg serch hynny |
Diffyg cydymffurfio’n cael ei gyflawni drwy weithred neu anweithred na fyddai person sy'n arfer gofal rhesymol yn ei gyflawni |
Diffyg cydymffurfio’n digwydd heb lawer o fai ar y sawl sy’n ei gyflawni, er enghraifft:
|
* Dyma'r termau a ddefnyddir yn y canllawiau statudol.
Niwed
Lle mae mwy o niwed yn cael ei achosi, bydd y gosb ariannol yn uwch.
Mae'r ffactorau canlynol yn ymwneud â niwed gwirioneddol a risg o niwed. Mae delio â risg o niwed yn golygu ystyried pa mor debygol yw hi y bydd niwed yn digwydd a faint o niwed fydd yn digwydd os yw'n digwydd.
Uchel (Tebygolrwydd Uchel o Niwed) | Canolig (Tebygolrwydd Canolig o Niwed) | Isel (Tebygolrwydd Isel o Niwed) |
---|---|---|
|
|
|
Bydd y Cyngor yn diffinio niwed yn eang a gall y lesddeiliad/lesddeiliaid ddioddef colled ariannol, niwed i iechyd neu drallod seicolegol (yn enwedig mewn achosion o bobl fregus). Mae yna raddfeydd o niwed o fewn yr holl gategorïau hyn.
Bydd natur niwed yn dibynnu ar nodweddion ac amgylchiadau personol y lesddeiliad a bydd asesu niwed yn ffordd effeithiol a phwysig o ystyried effaith achos penodol o ddiffyg cydymffurfio ar y lesddaliad.
Mewn rhai achosion, efallai na fydd unrhyw niwed gwirioneddol wedi digwydd, a bydd y Cyngor yn mynd ati i asesu difrifoldeb y camymddwyn; bydd yn ystyried y tebygolrwydd bod niwed yn digwydd a difrifoldeb y niwed a allai ddigwydd.
Cam 2 – Pwyntiau cychwyn ac ystod y categorïau
Ar ôl penderfynu ar gategori’r diffyg cydymffurfio, bydd y Cyngor yn cyfeirio at y mannau cychwyn a'r ystodau categori isod i gyrraedd y lefel briodol o gosb ariannol. Yna, bydd y Cyngor yn ystyried addasiad pellach o fewn yr ystod categori ar gyfer nodweddion sy’n gwaethygu a lliniaru (cam 3).
Euogrwydd Isel/Dim |
Man Cychwyn (£) |
Lleiaf swm (£) |
Uchaf swm (£) |
---|---|---|---|
Niwed | 1,000 | 500 | 1,500 |
Niwed Canolig |
1,500 | 1,000 | 2,000 |
Niwed Uchel |
2,000 | 1,500 | 2,500 |
Euogrwydd Canolig | Man Cychwyn (£) | Lleiaf swm (£) | Uchaf swm (£) |
---|---|---|---|
Niwed Isel | 3,500 | 2,500 | 4,500 |
Niwed Canolig | 4,500 | 3,500 | 5,500 |
Niwed Uchel | 5,500 | 4,500 | 6,500 |
Euogrwydd Uchel |
Man Cychwyn (£) | Lleiaf swm (£) | Uchaf swm (£) |
---|---|---|---|
Niwed Isel | 8,000 | 6,000 | 10,000 |
Niwed Canolig | 9,500 | 7,500 | 11,500 |
Niwed Uchel | 11,000 | 9,000 | 13,000 |
Euogrwydd Uchel Iawn | Man Cychwyn (£) | Lleiaf swm (£) | Uchaf swm (£) |
---|---|---|---|
Niwed Isel | 15,000 | 11,000 | 19,000 |
Niwed Canolig | 16,500 | 13,000 | 21,000 |
Niwed Uchel | 22,500 | 15,000 | 30,000 |
Sawl Achos o Ddiffyg Cydymffurfio
Yn gyffredinol, bydd landlord, neu berson sy’n gweithredu ar ei ran, sy’n torri’r rheolau ar sawl achlysur mewn perthynas ag un brydles yn agored i un gosb ariannol yn unig.4 Fodd bynnag byddant yn agored i gosb arall os ydynt wedyn, ar ôl cael cosb ariannol am dorri’r rheolau yn y gorffennol, yn torri rheolau eto mewn perthynas â'r un brydles.5
Pan fo person wedi peidio â chydymffurfio ar un achlysur neu fwy mewn perthynas â dwy brydles neu fwy, gall y Cyngor hefyd ddewis rhoi un gosb ariannol ar gyfer pob un o’r achosion hynny gyda'i gilydd.6 Os caiff un gosb ei gosod ar gyfer mwy nag un achos o ddiffyg cydymffurfio, ni ddylai swm y gosb fod yn llai na’r isafswm posibl, ac ni ddylai fod yn fwy na’r uchafswm posibl, y gellid bod wedi neu a fyddai wedi cael ei osod pe bai pob achos wedi cael ei gosbi ar wahân.
4 Adran 9(3) Deddf Diwygio Lesddaliad (Rhent Tir) 2022
5 Paragraff 5.2 o Ganllawiau Statudol DLUHC a Pharagraff 5.2 o Ganllawiau Statudol Llywodraeth Cymru
6 Adran 9(5) Deddf Diwygio Lesddaliad (Rhent Tir) 2022
Cael gwybodaeth ariannol
Mae'r canllawiau statudol yn cynghori y gallai cael gwybodaeth ariannol gan y landlord helpu i ystyried yr hyn sy'n fan cychwyn ac yn ystod briodol, ar sail modd y landlord. Os yw'r landlord yn gorff corfforaethol, gall y Cyngor ystyried gwybodaeth sydd ar gael am ei drosiant neu gyfwerth7.
Mae gan y Cyngor bwerau ymchwilio o dan Atodlen 5, Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 i ymchwilio i achosion o dorri'r Ddeddf.
Cam 3 – Ffactorau sy’n gwaethygu a lliniaru
Isod mae rhestr o rai o’r ffactorau y gall y Cyngor eu hystyried wrth asesu gwerth cosb ariannol, ond nid pob un ohonynt. Bydd y Cyngor yn nodi a ddylai unrhyw gyfuniad o'r rhain, neu ffactorau perthnasol eraill, arwain at addasiad i fyny neu i lawr o'r man cychwyn. Yn benodol, mae euogfarnau perthnasol heb eu disbyddu yn debygol o arwain at addasiad sylweddol i fyny. Mewn rhai achosion, ar ôl ystyried y ffactorau hyn, efallai y byddai'n briodol symud y tu allan i'r ystod categori a nodwyd na fydd yn uwch na'r uchafswm statudol a ganiateir yn unrhyw achos.
Ffactorau Gwaethygu (Materion sy’n cynyddu difrifoldeb) | Ffactorau Lliniaru (Materion sy'n lleihau difrifoldeb) |
---|---|
|
|
1 Paragraff 6(4)(b) o Ganllawiau Statudol DLUHC a Pharagraff 6(4)(b) o Ganllawiau Statudol Llywodraeth Cymru
Cam 4 – Tegwch a Chymesuredd
Dylai lefel y gosb ariannol adlewyrchu i ba raddau y disgynnodd yr ymddygiad islaw'r safon ofynnol. Dylai'r gosb ariannol, mewn ffordd deg a chymesur, fodloni’r amcanion o gosbi, atal a dileu enillion a gafwyd yn sgil y diffyg cydymffurfio.
Mae'r ffactorau y gellid eu hystyried yn cynnwys:
- unrhyw wybodaeth ariannol berthnasol arall sydd ar gael, fel maint yr elw i gorff corfforaethol neu’r ddyled sydd gan landlord. Dylai hyn ystyried a fyddai'r gosb ariannol yn cael effaith anghymesur ar allu'r landlord i gydymffurfio â'r gyfraith yn y dyfodol neu ganlyniadau anfwriadol eraill (e.e. bod landlord mewn perygl o golli ei gartref ei hun)
- effaith ariannol ehangach ar drydydd parti (e.e. effaith ar staff cyflogedig)
- egwyddor cyfanrwydd: os yw rhoi cosb ariannol am fwy nag un achos o ddiffyg cydymffurfio (yn ymwneud â dwy brydles neu fwy), neu os yw'r landlord eisoes wedi cael cosb, rhaid i'r Cyngor ystyried a yw cyfanswm y cosbau ariannol yn gyson â'r Ddeddf ac yn gyfiawn ac yn gymesur mewn perthynas â'r achosion o dorri rheolau
Ni ddylai cosb ariannol ar gyfer mwy nag un achos o dorri rheolau fynd y tu hwnt i derfynau isaf ac uchaf cosbau, fel pe bai pob achos wedi'i drin ar wahân.
Ni ddylai fod yn rhatach i dorri'r Ddeddf nag i dalu cosb ariannol.
Cam 5 – Gorchmynion Adfer
Os yw’r Cyngor yn fodlon, ar sail cydbwysedd tebygolrwydd, fod person wedi torri adran 3(1) o'r Ddeddf, ac nad yw wedi ad-dalu unrhyw rent gwaharddedig i’r lesddeiliad cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau’r diwrnod ar ôl iddo gael ei dderbyn, gallai’r Cyngor benderfynu cyhoeddi gorchymyn adfer o dan adran 10 o'r Ddeddf.
Gall y Cyngor gyflwyno gorchymyn adfer yn lle, neu yn ychwanegol at, gosb ariannol.
Ni all y Cyngor orchymyn person i ad-dalu'r rhent gwaharddedig os yw lesddeiliad wedi gwneud cais o dan adran 13 o'r Ddeddf i'r Tribiwnlys mewn perthynas â'r un taliad.
Pan fo unrhyw ran o ddau daliad neu fwy o rent gwaharddedig a wnaed gan lesddeiliad o dan yr un brydles heb ei had-dalu, gall y Cyngor gyflwyno un gorchymyn mewn perthynas â'r holl rent gwaharddedig sydd heb ei ad-dalu.
Cam 6 – Cofnodi'r penderfyniad
Bydd y swyddog sy'n gwneud penderfyniad am gosb ariannol a/neu orchymyn adfer yn cofnodi ei benderfyniad gan roi rhesymau dros bennu swm y gosb ariannol a fydd yn cael ei gosod ac unrhyw delerau sy’n perthyn i’r gorchymyn adfer.
Cyflwyno Cosb Ariannol a/neu Hysbysiad o Fwriad Gorchymyn Adfer
Ar ôl penderfynu ar lefel y gosb ariannol, a/neu'r angen i gyflwyno gorchymyn adfer, bydd y Cyngor yn rhoi "Hysbysiad o Fwriad" i'r landlord, neu berson perthnasol, o fewn y terfynau amser a bennir yn y Ddeddf8.
Bydd Hysbysiad o Fwriad yn cynnwys:
- y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad;
- swm y gosb ariannol arfaethedig neu delerau'r gorchymyn adfer arfaethedig;
- y rheswm dros osod y gosb neu gyflwyno’r gorchymyn; a
- gwybodaeth am yr hawl i gyflwyno sylwadau.
Sylwadau Ysgrifenedig
Bydd gan landlord neu berson perthnasol sy'n derbyn Hysbysiad o Fwriad gyfnod o 28 diwrnod, gan ddechrau ar y dyddiad y cyflwynwyd yr Hysbysiad o Fwriad, i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig am y cynnig i gyflwyno gorchymyn cosb ariannol a/neu orchymyn adfer a'r telerau ynddo. Bydd y sawl sy’n derbyn yr hysbysiad yn cael cyfarwyddiadau ar sut i gyflwyno eu sylwadau ysgrifenedig mewn ymateb i'r hysbysiad.
Adolygiad o Gosb Ariannol a/neu Orchymyn Adfer
Bydd y Cyngor yn adolygu unrhyw sylwadau ysgrifenedig a dderbynnir ac yn ystyried unrhyw ffactorau sy'n awgrymu gostyngiad yn y gosb, neu dynnu'r hysbysiad a/neu'r gorchymyn yn ôl, yn briodol.
Wrth wneud hynny, bydd y Cyngor yn ystyried y ffactorau canlynol sy'n ymwneud ag effeithiau ehangach y gosb ariannol ar drydydd parti diniwed, megis (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Effaith y gosb ariannol ar allu'r Landlord neu'r Asiant i gydymffurfio â'r gyfraith neu unioni ei gam lle bo hynny'n briodol.
- Effaith y gosb ariannol ar gyflogi staff, defnyddwyr y gwasanaeth, cwsmeriaid a'r economi leol.
8 Atodlen ss.3(1) Deddf Diwygio Lesddaliad (Rhent Tir) 2022
Bydd y ffactorau canlynol yn cael eu hystyried wrth bennu lefel y gostyngiad. Wrth benderfynu ar unrhyw ostyngiad mewn cosb ariannol, rhoddir ystyriaeth i:
- Y cam yn ystod yr ymchwiliad neu ar ôl hynny pan wnaeth y troseddwr dderbyn atebolrwydd.
- Yr amgylchiadau lle gwnaethant gyfaddef eu bod yn atebol.
- Graddau eu cydweithredu â'r ymchwiliad.
Y lefel uchaf o ostyngiad mewn cosb ar ôl derbyn atebolrwydd fydd un rhan o dair. Mewn rhai amgylchiadau, bydd gostyngiad llai neu ddim gostyngiad o gwbl. Gall hyn ddigwydd, er enghraifft, os oes tystiolaeth helaeth o'r diffyg cydymffurfio neu os oes patrwm o ddiffyg cydymffurfio.
Ni ddylai unrhyw ostyngiad arwain at gosb sy'n llai na’r swm a enillwyd yn sgil y diffyg cydymffurfio.
Gall y Cyngor ystyried diwygio telerau unrhyw orchymyn adfer yn ystod yr adolygiad hwn.
Rhybudd Terfynol
Ar ôl diwedd y cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer sylwadau ysgrifenedig, bydd y Cyngor yn penderfynu a ddylid rhoi Hysbysiad Terfynol yn manylu ar werth y gosb ariannol a/neu orchymyn adfer. Os cynhwysir gorchymyn adfer o fewn yr hysbysiad terfynol, gall y Cyngor ychwanegu llog at y taliad hwn ar y gyfradd a ragnodir o dan adran 17 o Ddeddf Dyfarniadau 18389 (8% y flwyddyn) o'r diwrnod y cafodd y taliad rhent gwaharddedig ei wneud.
Bydd yr hysbysiad terfynol yn ei gwneud yn ofynnol i dalu dirwy’r gosb i'r Cyngor ac/neu i gydymffurfio â gorchymyn adfer cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau’r diwrnod ar ôl diwrnod cyflwyno’r hysbysiad terfynol.
Bydd yr hysbysiad terfynol yn nodi:
- dyddiad cyflwyno’r hysbysiad terfynol.
- swm y gosb neu delerau'r gorchymyn.
- y rhesymau dros osod y gosb neu wneud y gorchymyn.
- gwybodaeth am sut i dalu'r gosb neu gydymffurfio â'r gorchymyn.
- gwybodaeth am hawliau apelio; a
- chanlyniadau methu â chydymffurfio â'r hysbysiad.
9 Adran 11(4) Deddf Diwygio Lesddaliad (Rhent Tir) 2022
Tynnu'n ôl neu ddiwygio
Gall y Cyngor, ar unrhyw adeg, dynnu’n ôl neu ddiwygio'r hysbysiad o fwriad neu’r hysbysiad terfynol, gan gynnwys lleihau swm y gosb, y gosb neu'r gofyniad am orchymyn adfer. Pan fydd hynny'n digwydd, bydd y Cyngor yn ysgrifennu at y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.