Monitro a gwerthuso HAPS
Trosolwg
Mae HAPS yn helpu aelwydydd i osod a defnyddio technolegau carbon isel i:
-
lleihau'r galw am ynni
-
cynhyrchu ynni adnewyddadwy
-
storio ynni
Mae'r rhaglen yn rhedeg yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Rhaglen fonitro
Mae Canolfan Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (CLCBE) Prifysgol Caerdydd yn mesur effeithiau HAPS. Bydd y rhaglen fonitro yn rhedeg am bum mlynedd rhwng 2022 a 2027.
Mae'r CLCBE wedi bod yn modelu ac yn cymhwyso technolegau carbon isel integredig dros 15 mlynedd.
Yr hyn rydyn ni'n ei fesur
Bydd cartrefi newydd a chartrefi wedi'u hail-osod ar draws y 4 sir sydd wedi'u cynnwys yn rhaglen HAPS yn rhan o'r rhaglen fonitro.
We measure the impact of HAPS solutions against six aims:
- perfformiad technoleg
- amodau amgylcheddol
- costau ynni a thlodi tanwydd
- arbediadau ynni
- ymddygiad preswylwyr
- iechyd a llesiant preswylwyr
Mae'r data i'w fonitro yn cynnwys:
- tywydd a hinsawdd
- preswylio
- amodau do
- hanfod yr adeilad (inswleiddio, sut y mae’n dal aer, delweddu thermograffig)
- defnydd o ynni
Sut rydym yn casglu'r data
Arolygon trigolion
Cynhelir arolygon preswylwyr i ddeall sut beth yw byw yn y cartref.
Profion perfformiad untro
Gwneir y rhain i ddeall cyflwr y tŷ, megis:
- lefel yr insiwleiddo
- sut y mae’n dal aer
- ardaloedd ble collir gwres
Monitro hirdymor
Bydd y cartref yn cael ei fonitro yn y tymor hir ddeall amodau amgylcheddol dan do yn y tŷ, megis:
- tymheredd a lleithder
- faint o ynni sy'n cael ei gynhyrchu, ei ddefnyddio a'i storio
- perfformiad y systemau gwresogi a systemau eraill