Clwb Bechgyn a Merched Castell-nedd
Lle i'r gymuned gyfan
Cyllid a ddyfarnwyd: £28,914.43
Helpodd buddsoddiad gan Gronfa Effaith Balchder Bro i ailagor Clwb Bechgyn a Merched Castell-nedd fel lle diogel a chroesawgar i bobl ifanc a theuluoedd lleol.
Gan weithio ochr yn ochr â chyllid cyfatebol a sicrhawyd gan y sefydliad, cyflawnodd y prosiect raglen o welliannau hanfodol i'r adeilad. Roedd y rhain yn cynnwys atgyweirio'r to, uwchraddio'r system drydanol, gwella'r gegin a'r ystafelloedd ymolchi, a gosod drysau tân newydd.
Mae'r gwaith wedi trawsnewid y cyfleuster yn ased cymunedol cynaliadwy, gan ddarparu amgylchedd diogel lle gall pobl ifanc gyfarfod, cymdeithasu, meithrin hyder a datblygu perthnasoedd cadarnhaol.
Gwelliannau a wnaed
- atgyweirio'r to
- uwchraddio'r system drydanol
- gosod cyfleusterau cegin newydd
- gwella'r cyfleusterau ymolchi
- gosod drysau tân newydd
- gosod lloriau newydd
Manteision i'r gymuned
Cwblhawyd y gwaith erbyn diwedd mis Mai, gan alluogi'r clwb i ailagor a chroesawu'r gymuned yn ôl.
Daeth mwy na 50 o bobl i'r digwyddiad ailagor, gan ddangos cefnogaeth gref i'r cyfleuster a'i rôl yn yr ardal leol.
Ers ailagor:
- mae 21 o bobl ifanc newydd wedi ymuno â'r clwb
- cynyddodd presenoldeb yn y sesiynau ieuenctid wythnosol o gyfartaledd o 10 i 12 o bobl ifanc i 18 yn y sesiwn gyntaf ar ôl ailagor
- cynhaliwyd 19 o sesiynau rhwng mis Mehefin a mis Awst
Mae'r gwelliannau wedi creu lle diogel a hygyrch lle gall pobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau, gwneud ffrindiau a meithrin hyder.
Edrych ymlaen
Mae'r sefydliad yn bwriadu parhau i gynnal sesiynau ieuenctid wythnosol, gan gyflwyno gweithgareddau ychwanegol i deuluoedd, gan gynnwys chwaraeon, crefftau a gemau.
Bydd y gweithgareddau hyn yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd dreulio amser gyda'i gilydd, cryfhau perthnasoedd a chymryd rhan mewn profiadau cadarnhaol yn eu cymuned.
Drwy greu lle croesawgar a chynaliadwy, mae'r prosiect wedi helpu i sicrhau dyfodol hirdymor ased cymunedol pwysig a fydd yn parhau i fod o fudd i drigolion lleol am flynyddoedd i ddod.