Cronfa Effaith Balchder Bro
Ynglŷn â'r gronfa
Lansiodd Llywodraeth y DU Gronfa Effaith Balchder Bro (PiPIF) ym mis Medi 2025 i gefnogi prosiectau sy'n gwella cymunedau lleol, prif strydoedd a mannau cymunedol.
Mae Castell-nedd Port Talbot wedi derbyn £1.5 miliwn drwy'r gronfa. Caiff y cyllid ei fuddsoddi mewn prosiectau ledled y fwrdeistref sirol erbyn mis Mawrth 2027.
Gellir cyflwyno prosiectau mewn unrhyw ward yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae'r Cyngor yn gweithio gyda chymunedau lleol, Aelodau Seneddol (ASau) ac Aelodau o'r Senedd (AoSau) i nodi prosiectau sy'n diwallu anghenion lleol ac yn gwella'r mannau y mae pobl yn eu defnyddio bob dydd.
Blaenoriaethau cyllido
Mae'r gronfa yn cefnogi prosiectau o dan dri thema.
Mannau cymunedol
Mae'r amcanion yn cynnwys:
- creu cyfleusterau cymunedol newydd
- gwella neu ymestyn adeiladau presennol
- adnewyddu mannau cymunedol
- cefnogi sefydliadau cymunedol i gymryd perchnogaeth o asedau lleol
Mannau cyhoeddus ac awyr agored
Mae'r amcanion yn cynnwys:
- parciau a mannau gwyrdd
- sgwariau cyhoeddus
- ardaloedd chwarae
- cyfleusterau chwaraeon a hamdden
- dodrefn stryd
- celf gyhoeddus
- arwyddion a systemau cyfeirio
Prif strydoedd a chanol trefi
Mae'r amcanion yn cynnwys:
- gwelliannau i ffryntiau siopau
- dod ag adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd
- gwelliannau i'r strydlun
- celf gyhoeddus
- llwybrau ac arwyddion cyfeirio
- cyfleusterau ar gyfer marchnadoedd a digwyddiadau
Prosiectau a ariannwyd
Mae'r prosiectau isod wedi derbyn cyllid drwy'r gronfa.
Dysgwch fwy am y gwaith sydd wedi'i gyflawni a'r manteision i gymunedau lleol:
Rhagor o wybodaeth
I gael gwybodaeth lawn am y gronfa, gan gynnwys meini prawf cymhwysedd, meini prawf asesu a chanllawiau ategol, cyfeiriwch at y dogfennau isod.
Cysylltu â ni
