Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Clwb Rygbi Llansawel

Cadw'r gwres i mewn

Cyllid a ddyfarnwyd: £5,200

Helpodd buddsoddiad gan Gronfa Effaith Balchder Bro i wella diogelwch a chynaliadwyedd adeilad y clwb drwy ariannu'r gwaith o gael gwared ar ddeunyddiau asbestos peryglus.

Roedd y gwaith yn gam cyntaf hanfodol mewn rhaglen ehangach o welliannau i foderneiddio'r cyfleuster a sicrhau ei ddyfodol fel man gwerthfawr i'r gymuned. Drwy fynd i'r afael â phroblemau sylweddol yn yr adeilad, mae'r prosiect wedi creu sylfaen ar gyfer buddsoddiad a gwelliannau pellach.

Gwelliannau a wnaed

  • cael gwared yn ddiogel ar ddeunyddiau asbestos peryglus
  • gwaith paratoi i gefnogi gwelliannau yn y dyfodol
  • galluogi gosod ffenestri newydd
  • gwella cyflwr a chynaliadwyedd cyffredinol yr adeilad

Manteision i'r gymuned

Mae'r prosiect wedi helpu i greu amgylchedd mwy diogel a chroesawgar i bawb sy'n defnyddio'r clwb.

Drwy gael gwared ar yr asbestos, aethpwyd i'r afael â mater iechyd a diogelwch sylweddol, gan roi tawelwch meddwl i aelodau, ymwelwyr a grwpiau lleol.

Mae'r gwaith hefyd wedi paratoi'r ffordd ar gyfer gwelliannau pellach, gan gynnwys gosod ffenestri newydd. O ganlyniad, mae'r adeilad yn fwy cyfforddus ac yn fwy effeithlon o ran ynni, gan ddarparu lle gwell ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.

Mae hyn yn golygu bod y clwb mewn sefyllfa well i gefnogi pobl leol drwy ddarparu lle diogel, hygyrch a chynaliadwy i gyfarfod, cymryd rhan mewn gweithgareddau a mwynhau bywyd cymunedol.

Edrych ymlaen

Mae'r prosiect wedi helpu i sicrhau dyfodol hirdymor y clwb drwy greu sylfaen ar gyfer buddsoddiad a gwelliannau pellach.

Gyda'r adeilad bellach yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon o ran ynni, gall barhau i wasanaethu'r gymuned leol am flynyddoedd i ddod. Bydd y clwb yn parhau i gefnogi gweithgareddau a digwyddiadau sy'n dod â phobl ynghyd ac yn cryfhau cysylltiadau cymunedol.

Nol i ben y dudalen