Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Neuadd Cwmllynfell

Cynllun atgyweirio'r to

Cyllid a ddyfarnwyd: £31,782

Helpodd buddsoddiad gan Gronfa Effaith Balchder Bro i ddiogelu canolfan gymunedol bentref drwy ariannu gwaith atgyweirio hanfodol i'r to uwchben y brif lolfa.

Mae'r lolfa yn cael ei defnyddio'n rheolaidd ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau a gwasanaethau drwy gydol y flwyddyn. Yn ystod misoedd y gaeaf, mae hefyd yn darparu Canolfan Gynnes, lle gall trigolion gael cymorth, meithrin cysylltiadau cymdeithasol a threulio amser mewn amgylchedd cyfforddus.

Cyflawnodd y prosiect waith atgyweirio pwysig er mwyn gwella cyflwr yr adeilad a helpu i sicrhau dyfodol y cyfleuster cymunedol gwerthfawr hwn.

Gwelliannau a wnaed

  • atgyweirio'r to
  • ailosod y cwm plwm
  • adnewyddu rhan o strwythur y to
  • gosod bondo pren newydd

Manteision i'r gymuned

Mae'r gwelliannau wedi datrys problemau hirsefydlog gyda dŵr glaw yn treiddio i'r adeilad yn ystod tywydd garw.

Cyn y gwaith, roedd tywydd garw yn cyfyngu ar y defnydd o ran o'r adeilad ar gyfer gweithgareddau cymunedol, digwyddiadau a gwasanaethau lleol. Mae'r gwaith atgyweirio wedi diogelu'r adeilad rhag rhagor o ddŵr yn treiddio i mewn ac wedi helpu i ddiogelu buddsoddiad blaenorol a wnaed i wella tu mewn y cyfleuster.

O ganlyniad, gellir bellach ddefnyddio'r lolfa drwy gydol y flwyddyn, gan ddarparu amgylchedd diogel, cyfforddus sy'n gallu gwrthsefyll y tywydd ar gyfer gweithgareddau cymunedol.

Mae'r prosiect yn arbennig o fuddiol yn ystod misoedd y gaeaf, pan fydd y ganolfan yn gweithredu fel Canolfan Gynnes. Mae'r gwelliannau'n helpu i sicrhau bod trigolion yn parhau i gael mynediad at le croesawgar sy'n cefnogi lles y gymuned, yn lleihau unigedd cymdeithasol ac yn rhoi cyfleoedd i bobl gysylltu ag eraill.

Edrych ymlaen

Drwy ddiogelu'r adeilad rhag difrod sy'n gysylltiedig â'r tywydd yn y dyfodol, mae'r prosiect wedi helpu i sicrhau defnydd hirdymor o ased cymunedol pwysig.

Bydd y gwelliannau'n galluogi'r ganolfan gymunedol i barhau i ddarparu gweithgareddau, digwyddiadau a gwasanaethau cymorth i bobl leol, gan sicrhau ei bod yn parhau'n adnodd gwerthfawr i'r gymuned am flynyddoedd i ddod.

Nol i ben y dudalen