Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Goresgyn rhwystrau i gyflogaeth

Trosolwg

Roedd Hywel eisiau gweithio fel Swyddog Strategaeth Drafnidiaeth gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot.

Roedd yn wynebu her. Oherwydd problemau iechyd, nid oedd yn gallu gyrru mwyach. Roedd hyn yn ei gwneud hi'n anodd iddo fodloni gofyniad trafnidiaeth y swydd.

Gweithiodd Hywel gyda'i fentor, Sam Peebles, ac Arweinydd y Tîm, Neil Sullivan, i ddod o hyd i ateb.

Nodweddion y prosiect

Rhoddodd y tîm gymorth i Hywel a oedd wedi'i deilwra i'w anghenion.

Roedd hyn yn cynnwys:

  • mentora un i un
  • cymorth gyda'i CV
  • hyfforddiant ar gyfer cyfweliadau
  • cymorth gyda cheisiadau am swyddi

Er mwyn ei helpu i gyrraedd y gwaith, darparwyd:

  • beic
  • cyfarpar diogelu personol (PPE) ar gyfer beicio
  • dillad addas

Rhoddodd hyn ffordd ddibynadwy o deithio i Hywel a'i helpu i ddechrau ei swydd newydd yn hyderus.

Canlyniadau'r prosiect

Gyda'r cymorth cywir, llwyddodd Hywel i sicrhau swydd amser llawn fel Swyddog Strategaeth Drafnidiaeth gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot.

Dechreuodd mewn rôl sy'n cyd-fynd â'i sgiliau a'i nodau gyrfa.

Adborth

"Roeddwn i eisiau dweud diolch yn fawr wrth Dîm Cyflogadwyedd CNPT am gael y beic i mi. Mae'n golygu cymaint. Rydych chi wedi gwneud mwy na'r disgwyl i fy nghefnogi, a bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr."
 - Hywel Purchase 

Nol i ben y dudalen