Ystafell ddosbarth drochol
Trosolwg
Helpodd cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU) Grŵp Colegau NPTC i greu ystafell ddosbarth drochol gyntaf Cymru.
Mae'r ystafell ddosbarth yn helpu dysgwyr i ennill sgiliau newydd drwy ddefnyddio offer digidol a thechnoleg realiti rhithwir (VR) fel rhan o'u hyfforddiant.
Mae'r pynciau'n cynnwys:
- adeiladu
- peirianneg
- cyrsiau digidol
Mae'r coleg wedi croesawu ymwelwyr o bob rhan o Gymru, gan gynnwys:
- colegau
- prifysgolion
- darparwyr hyfforddiant
Maent wedi cael cyfle i archwilio'r ystafell ddosbarth a rhannu syniadau am sgiliau a dysgu
Grantiau a chyllid
Rhaglen Ariannu
Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU)
Thema
Pobl a Sgiliau
Prosiect
Canolfan Dysgu Drochol Grŵp Colegau CNPT
Nodweddion y prosiect
Defnyddir yr ystafell ddosbarth drochol i helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, sgiliau digidol a sgiliau sy'n benodol i'w pwnc.
Mae'r ystafell ddosbarth drochol yn cynnwys:
- wal LED Infinity 24 panel gyda delweddau cydraniad uchel
- wal fideo 6 phanel ar gyfer cyflwyniadau a dysgu mewn grwpiau
- sgriniau cyffwrdd rhyngweithiol i gefnogi cydweithio
- clustffonau realiti rhithwir (VR) ar gyfer hyfforddiant realistig ac ymarferol
- seilwaith digidol wedi'i gynllunio i gefnogi profiadau dysgu hygyrch a chynhwysol
Oriel
Cafodd ymwelwyr gyfle i archwilio'r cyfleuster a rhoi cynnig ar weithgareddau realiti rhithwir (VR). Buont hefyd yn rhannu syniadau ac arferion da ym maes dysgu a datblygu sgiliau.