Cronfa Twf Lleol (CTL)
Trosolwg
Mae'r CTL yn gronfa gwerth £547 miliwn a fydd yn cefnogi twf economaidd ledled Cymru rhwng 2026 a 2029.
Bydd y gronfa yn buddsoddi mewn prosiectau sy'n:
- helpu busnesau i dyfu
- gwella sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth
- darparu seilwaith sy'n cefnogi economïau lleol
Prosiectau a gweithgareddau cymwys
Twf busnes ac arloesi
Mae'r gronfa yn cefnogi busnesau i:
- dyfu a dod yn fwy cystadleuol
- datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd
- buddsoddi mewn ymchwil a datblygu (Y&D)
- gwella arloesedd a chynhyrchiant
Sgiliau a chyflogaeth
Mae'r gronfa yn cefnogi prosiectau sy'n:
- cefnogi pobl sydd allan o waith
- darparu hyfforddiant a datblygu sgiliau
- helpu pobl i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth
- gwella mynediad at gyfleoedd cyflogaeth
Buddsoddi mewn seilwaith
Mae'r gronfa yn cefnogi seilwaith sy'n cyfrannu at dwf economaidd, gan gynnwys:
- safleoedd ac adeiladau busnes
- asedau diwylliannol, twristiaeth a threftadaeth
- seilwaith trafnidiaeth
- cysylltedd digidol
- prosiectau ynni
Amserlenni
Mae disgwyl i brosiectau a ariennir drwy Flwyddyn 1 Cronfa Twf Lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot redeg rhwng Mehefin 2026 a Mawrth 2027.
Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am Flynyddoedd 2 a 3 pan fydd ar gael.
Newyddion a diweddariadau
Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau am y Gronfa Twf Lleol (CTL) ar y dudalen hon.
Gallwch hefyd ddilyn Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar Facebook ac Instagram i gael y newyddion diweddaraf.
Dogfennau
Cysylltwch â ni
Mae'r prosiect hwn yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Twf Lleol y DU yng Nghymru.
