Cefnogaeth sgiliau a chyflogaeth
Trosolwg
Horizons NPT
Mae Horizons yn cefnogi pobl ifanc 16 i 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Mae hefyd yn helpu pobl 16 oed a throsodd a allai fod mewn perygl o ddod yn NEET wrth adael yr ysgol.
Mae'r cymorth yn cael ei deilwra i anghenion unigol ac yn helpu pobl i gymryd y cam nesaf i mewn i:
- addysg
- hyfforddiant
- gwaith
Workways NPT
Mae Workways yn cefnogi pobl 16 oed a throsodd sydd:
- yn ddi-waith
- allan o waith
- mewn perygl o ddiweithdra hirdymor
Profiad gwaith a gwirfoddoli
Gall Workways helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau a gwella eu cyfleoedd cyflogaeth drwy ddarparu:
- cyfleoedd gwaith â thâl
- lleoliadau profiad gwaith
- cyfleoedd gwirfoddoli
Gall y cyfleoedd hyn helpu pobl i:
- ennill profiad ymarferol
- magu hyder
- datblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi
- gwella eu siawns o ddod o hyd i waith
Hyfforddiant a chymorth gyrfa
Mae Workways hefyd yn cynnig hyfforddiant sy'n gysylltiedig â chyfleoedd gwaith lleol.
Gall y gwasanaeth helpu pobl i:
- ennill sgiliau newydd
- cyflawni cymwysterau
- dychwelyd i waith
- symud ymlaen yn eu rôl bresennol
Mae cymorth hefyd ar gael i bobl sydd eisoes mewn gwaith, gan gynnwys y rhai sydd:
- mewn swyddi cyflog isel
- yn gweithio'n rhan-amser
- mewn cyflogaeth ansicr
Gall y gwasanaeth helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau a symud ymlaen yn eu gyrfa.
