Hepgor gwe-lywio

Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r wefan hon.

Canmoliaeth a chwynion

Trosolwg

Rydym am ddarparu gwasanaethau o safon dda i bawb, p’un a ydynt yn byw, yn gweithio yn neu’n ymweld â Chastell-nedd Port Talbot. Hoffem wybod beth yw eich barn am ein gwasanaethau a’n cyfleusterau.

Rhowch eich sylwadau, canmoliaeth neu gŵyn.

Os hoffech roi gwybod i ni am unrhyw un o’n gwasanaethau a/neu’n cyfleusterau:

  • defnyddiwch ein ffurflen gyswllt
  • gofynnwch i’r person rydych mewn cysylltiad ag ef/hi am gopi o’r ffurflen sylwadau, canmoliaethau a chwynion. Os ydych yn gwneud cwyn, dywedwch eich bod am i’ch cwyn gael ei thrin yn ffurfiol.
  • dewch i’n gweld wyneb yn wyneb yn ein Gwasanaethau Cwsmeriaid yng Nghastell-nedd a Phort Talbot
  • ffoniwch ni ar 01639 686868 neu ar ein llinell ffôn Gymraeg 01639 686869
  • ysgrifennwch atom drwy lythyr
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a byddwn yn trin gohebiaeth Cymraeg a Saesneg yn unol â’r un safonau ac amserlenni.

Sut rydym yn ymdrin â chwynion

Dylai proses effeithiol ar gyfer ymdrin â chwynion fod yn:

  • canolbwyntio ar yr achwynydd
  • syml
  • teg ac wrthrychol
  • brydlon ac effeithiol
  • atebol
  • wedi ymrwymo i welliant parhaus

Byddwn yn ceisio datrys cwyn gychwynnol ar unwaith. Os na ellir gwneud hyn, bydd rheolwr y gwasanaeth yn ymchwilio i’r gŵyn. Os nad ydych yn fodlon â’r canlyniad, bydd y gŵyn yn cael ei chyfeirio at Swyddog Cwynion.

Gallwch hefyd wneud cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar unrhyw adeg. Cyn cysylltu â’r Ombwdsmon, maent yn disgwyl eich bod wedi:

  • codi’r mater gyda’r corff perthnasol
  • rhoi cyfle rhesymol iddynt ymchwilio ac ymateb
Cyfarwyddiadau i CF35 5LJ
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae Pencoed CF35 5LJ pref

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i ddatrys eich cwyn

Os na allwn ddatrys eich cwyn ar unwaith, byddwn yn ymchwilio iddi. Byddwch yn clywed gennym o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os bydd angen i Swyddog Cwynion edrych ar eich cwyn, byddwch yn clywed gennym o fewn 20 diwrnod gwaith.

Os na ellir cwrdd ag unrhyw derfynau amser, byddwn yn eich hysbysu ac yn rhoi dyddiad newydd i chi.

Polisi sylwadau, canmoliaethau a chwynion

Os oes gennych gŵyn am ysgol, cysylltwch â’r pennaeth neu lywodraethwyr yr ysgol honno.

Cwynion diogelu data

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi ymrwymo i drin gwybodaeth bersonol yn gyfreithlon, yn deg ac yn dryloyw. Os ydych yn anfodlon ar y ffordd rydym wedi casglu, defnyddio, rhannu neu reoli eich data personol, mae gennych hawl i wneud cwyn diogelu data gyda ni.

Rhannu eich Adborth